Lawlwythwch Sut i wneud cais am drwydded i fod yn yrrwr cerbyd llogi preifat neu gerbyd hacni (pdf)
Rydym nawr yn derbyn ceisiadau am brofion gwybodaeth a gaiff eu cynnal fis Medi 2022.
Gwnewch gais am brawf Saesneg a rhifedd sylfarnol
(Byddwch angen cerdyn credyd neu ddebyd dilys)
Pan dderbyniwn eich cais, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda manylion o ble a phryd y bydd y prawf yn digwydd.
Rhaid i chi ddarparu cyfeiriad e-bost dilys a gwirio eich blwch post sothach.
A fyddech gystal â dod â’r eitemau canlynol gyda chi i’r prawf:
- Ffotograff maint pasbort diweddar
- Trwydded yrru DVLA
- Prawf adnabod ffotograffig os mai trwydded yrru hen ffasiwn sydd gennych, e.e. pasbort, trwydded preswylio dilys
- Masgiau wyneb 3 haen (y mae’n rhaid eu gwisgo pan fo hynny’n ofynnol)
Os na fyddwch yn dod â’r eitemau dan sylw gyda chi ni chewch sefyll y prawf a byddwch yn cael eich rhoi ar y rhestr aros eto, gan oedi’r weithdrefn o gael eich trwydded.
Cyn y prawf a wnewch chi sicrhau eich bod yn darllen y canlynol:
Cyn y prawf, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen:
Statws Mewnfudo ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU/Iwerddon
O 30 Mehefin 2021, mae’n ofyniad i’r Adran Drwyddedu wirio’r statws mewnfudo ar gyfer Preswylwyr yr UE, yr AEE a’r Swistir. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn gov.uk. Gall ymgeisydd weld a phrofi ei statws mewnfudo yma.
Archwiliad meddygol
Lawrlwythwch ffurflen archwiliad meddygol gyrrwr tacsi (pdf)
Cais
Pan fydd y prawf Saesneg a rhifedd sylfaenol wedi ei basio a’r archwiliad meddygol wedi’i gwblhau, anfonwch e-bost at trwyddedu.amgylcheddol@casnewydd.gov.uk i wneud apwyntiad i drafod Trwydded Yrru Cerbyd Hacni neu Logi Preifat newydd.
Byddwn yn anfon ffurflen gais atoch y gallwch naill ai ei chwblhau'n electronig a’i e-bostio atom cyn yr apwyntiad, neu ddod â hi gyda chi pan ddowch i'n gweld.
>>Gyrrwr presennol? Darllenwch y wybodaeth hon<<