Dyfynnwch y rhif cyfeirnod wyth rhif a nodir ar y gornel dde ar frig eich bil, sy’n dechrau gyda 3...
Debyd uniongyrchol misol
Y ffordd hawsaf o dalu, dim ciwio, dim costau postio, dim angen cofio talu a dewis o bedwar dyddiad talu – 1af, 5ed, 12fed neu’r 20fed. Gallwch hefyd ddewis talu eich bil blynyddol dros 10 neu 12 mis (11 mis os dewiswch y 1af o’r mis).
Cofiwch, efallai na fyddwn yn gallu cynnig y 10, 11 neu’r 12 mis llawn i chi os caiff eich debyd uniongyrchol ei sefydlu yn ystod y flwyddyn ariannol.
Neu gallwch lawrlwytho a llenwi fersiwn brint o’r mandad debyd uniongyrchol (pdf).
Ar-lein
Gallwch wneud taliad ar-lein diogel gyda’ch cerdyn debyd. Sicrhewch fod eich rhif y Dreth Gyngor 8 digid wrth law.
Trosglwyddiad BACS
Gwneud trosglwyddiad banc yn defnyddio’r manylion canlynol:
Rhif y Cyfrif: 05070406
Cod didoli: 09-07-20
Cyfeirnod: Eich rhif y Dreth Gyngor 8 digid
Ffonio
Mae llinell taliadau awtomataidd ar gael 24 awr y dydd drwy ffonio Cyngor Dinas Casnewydd ar (01633) 656656
Arian, siec a cherdyn
Gallwch dalu ag arian mewn unrhyw le sydd â PayPoint y DU neu gydag arian, siec neu gerdyn yn unrhyw Swyddfa Bost yn y DU drwy ddangos eich bil â chod bar neu gerdyn i’r manwerthwr neu’r Swyddfa'r Post.
Dod o hyd i'r man PayPoint agosaf ar Fy Nghasnewydd
Drwy'r post
Gellir postio sieciau i:
Treth Gyngor, Blwch SP 886, Casnewydd, NP20 9LU
Ysgrifennwch rif cyfeirnod eich cyfrif a’ch cyfeiriad ar y cefn.
Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau e-bostiwch y Tîm Casglu Incwm yn Council.tax@newport.gov.uk neu ffoniwch 01633 656656.