Dinas ddigidol
Cynhwysiant Digidol
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ennill Achrediad Siarter Cynhwysiant Digidol, a ddyfarnwyd gan Cymunedau Digidol Cymru.
Mae'r Siarter Cynhwysiant Digidol ar gyfer sefydliadau yng Nghymru sy'n hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol ac yn helpu pobl i fynd ar-lein.
Mae'r achrediad yn gweithredu tan fis Ionawr 2024 - darllen mwy.
Strategaeth Digidol
Mae'r Cyngor wrthi'n adnewyddu ei strategaeth digidol, a fydd yn cael ei lansio yn 2022.
Mae ein strategaeth bresennol ar gael i’w lawrlwytho isod.
Wi-fi am ddim yng Nghasnewydd
I breswylwyr ac ymwelwyr
Mae wi-fi am ddim mewn dros 50 o adeiladau cyhoeddus, ar fysus Casnewydd, yn y gorsafoedd trên a bws, ym marchnad Casnewydd ac ar strydoedd canol y ddinas.
Mae’r symbol Wi-Fi Gyfeillgar yn helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i ddod o hyd i leoliadau lle mae’r wi-fi wedi’i addasu i geisio blocio deunyddiau amhriodol, cynllun achrededig gyda Chyngor y DU dros Ddiogelwch Ar-lein i Blant.
Gall preswylwyr ac ymwelwyr gael mynediad at Gwmwl Cymunedol Casnewydd a Chysylltiad Dinas Casnewydd o unrhyw ddyfais ddi-wifr.
I fusnesau
Gall band eang cyflym iawn fod yn ddefnyddiol i fusnesau o bob maint drwy eu galluogi nhw i gyfathrebu’n well gyda chwsmeriaid, trosglwyddo data’n gynt a gweithredu’n fwy effeithlon.
Gweld sut mae busnesau lleol wedi defnyddio band eang cyflym
Adnoddau
Lawrlwythwch Strategaeth Ddigidol Casnewydd 2015-2020 (pdf)
Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd – Wi-Fi Cyhoeddus (pdf)