Mae rhai o bartneriaid Cyngor Dinas Casnewydd a sefydliadau eraill hefyd yn cynnig amrywiaeth o gymorth a chyngor.
Budd-daliadau - hawlio’r hyn sy’n perthyn i chi
Os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, gall Advicelink Cymru eich helpu i gadarnhau a hawlio’r hyn sy’n ddyledus i chi.
Cysylltwch ag un o’n cynghorwyr heddiw drwy ffonio ein llinell gymorth rhad ac am ddim ar 0808 250 5700.
Mae cyngor ar fudd-daliadau ar gael drwy Cyngor ar Bopeth.
Mae Gwefan Turn2us hefyd yn helpu pobl mewn angen ariannol i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a chymorth ariannol arall.
Gallwch hefyd ddefnyddio Entitledto i wirio pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Cronfa Cymorth Dewisol ar gyfer taliad arian brys
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau fath o grant nad oes angen i chi eu talu'n ôl:
Taliad Cymorth Brys (TCB) - Grant i helpu i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad os ydych yn profi caledi ariannol eithafol, wedi colli eich swydd, neu wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf.
Taliad Cymorth Unigol (TCU) - Grant i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano i fyw'n annibynnol yn eich/ei c/gartref neu eiddo rydych chi neu ef/hi yn symud iddo.
Gwnewch gais ar-lein neu ffoniwch 0800 859 5924.
Cyngor ar reoli arian a dyledion
Mae sawl sefydliad partner a all eich helpu i reoli eich arian neu ddyled.
Mae Undebau Credyd yn gwmnïau cydweithredol arian dielw sy'n cynnig benthyciadau cystadleuol a lle diogel ar gyfer cynilion.
Dysgwch fwy am y gwasanaethau cymorth yng Nghasnewydd.
Cyfleustodau
Cymru Gynhesach - gwasanaeth cynhwysfawr a diduedd am ddim sy'n helpu pobl i leihau eu biliau ynni. Ewch i'r wefan neu e-bostiwch warmer.wales@newportca.org.uk
Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau cyfleustodau, cysylltwch â'ch cyflenwr cyn gynted â phosibl fel y gallant roi gwybod pa gymorth sydd ar gael.
Dŵr Cymru - hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyngor gan gynnwys tariff HelpU sy'n helpu aelwydydd incwm isel drwy roi cap ar y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu am eich dŵr.
Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (RhCY)
Y prif gynllun ar gyfer cefnogi gwelliannau effeithlonrwydd ynni gan gynnwys insiwleiddio a rhai gwelliannau gwresogi mewn aelwydydd sydd ag incwm isel ac sy’n agored i niwed.
Llinell Gymorth 0800 444202 (dydd Llun i ddydd Gwener 8am-8pm; dydd Sadwrn a dydd Sul 9am-5pm)
Power Up
Darparu cyngor ar gofrestr gwasanaeth blaenoriaeth Western Power Distribution dros y ffôn ac ymweliadau â chartrefi. Mae'r gofrestr yn sicrhau cymorth a chefnogaeth ychwanegol yn ystod toriadau pŵer i bobl oedrannus, pobl sâl iawn neu anabl a'r rhai sy'n dibynnu ar bŵer ar gyfer offer meddygol.
Dewisiadau cyngor, cymorth ac atgyfeirio am ddim wedi'u teilwra i anghenion yr aelwyd. Ffoniwch 01656 747622, e-bostiwch information@warmwales.org.uk neu ewch i https://www.warmwales.org.uk/cy/
Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru
Arian ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni i gartrefi incwm isel a'r rhai sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig. Os ydych chi'n poeni am filiau ynni, gallwch siarad â chynghorwr. Gallant gynnig cyngor am ddim a diduedd ar arbed ynni a dŵr; rheoli arian; gwirio eich bod ar y tariff gorau; hawl i fudd-daliadau. Ffoniwch 0808 808 2244 neu gofynnwch am alwad yn ôl gan ddefnyddio ffurflen ar-lein yn https://nyth.llyw.cymru/sut-i-wneud-cais/ffurflen-galw-yn-ol/
Mae Age Cymru'n cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, diduedd ac arbenigol i bobl hŷn, eu teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Cysylltwch â changen Casnewydd ar 01633 763330
Cyngor ar gostau byw a gofalu am eich iechyd meddwl, bwyta'n dda, cynllun Cychwyn Iach a mwy.