Cynllunio digwyddiad

Sut gallwn ni helpu

Mae Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiadau Casnewydd (GYD) yn grŵp ymgynghorol sy’n cynnwys aelodau o Gyngor Dinas Casnewydd, Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Diben y grŵp yw trafod materion diogelwch y cyhoedd sy’n ymwneud â digwyddiad.

Does dim grymoedd cyfreithiol gan y grŵp. Fel grŵp ymgynghorol ni all roi cydsyniad na chaniatâd i ddigwyddiad fynd rhagddo, ond bydd yn cynghori trefnydd y digwyddiad ar faterion diogelwch y cyhoedd y bydd gofyn mynd i’r afael â nhw.

Dylech gysylltu â GYD Digwyddiadau Casnewydd os yw un o’r canlynol yn berthnasol i’ch digwyddiad: 

  • Mae’n cael ei gynnal y tu allan gyda thorfeydd mawr, h.y. adloniant cyhoeddus, nifer uchel o symudiadau cerbydau, tân gwyllt neu goelcerth, gwyliau, enwogion, VIP ayb.
  • Mae’n ddigwyddiad chwaraeon mawr – digwyddiad tro cyntaf neu un cyffredin arferol
  • Mae’n ddigwyddiad dan do gyda thorfeydd mawr o fath arbennig, digwyddiadau cerddoriaeth boblogaidd, cynulliadau gwleidyddol neu grefyddol
  • Mae’n ddigwyddiad canol y ddinas
  • Mae’n orymdaith neu’n ddigwyddiad beicio neu redeg
  • Mae’n barti stryd
  • Mae’n ffair gymunedol

Dylid cyflwyno ffurflenni hysbysu GYD o leiaf 8 wythnos cyn eich digwyddiad.

Ffurflen Hysbysu Digwyddiad

Os ydych yn ansicr a oes angen cwblhau ffurflen Hysbysu GYD arnoch yna cwblhewch eich holiadur ymholiad am ddigwyddiad ar-lein a fydd yn egluro a oes angen cwblhau ffurflen hysbysu lawn arnoch.

Cwblhewch y ffurflen hysbysu digwyddiad ar-lein neu lawrlwythwch a chwblhewch fersiwn Microsoft Word.

Dylai trefnwyr digwyddiadau fod yn ymwybodol y gall fod angen caniatâd penodol os ydych, er enghraifft, yn bwriadu gwerthu alcohol neu ddarparu adloniant rheoledig neu os oes angen cau ffyrdd ar gyfer eich digwyddiad.

Trwyddedu

Os yw digwyddiad yn galw am Drwydded Safle neu Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro cysylltwch â'n tîm trwyddedu i gael cyngor ar gamau cyntaf y cynllunio.

Cau ffyrdd

Gall rhai digwyddiadau, e.e. digwyddiadau rhedeg neu feicio, partïon stryd neu wyliau bwyd, ofyn am gau ffyrdd lleol i draffig.

Bydd gofyn i chi wneud cais i gau ffordd o leiaf wyth wythnos cyn y digwyddiad, ni chodir tâl am wneud cais.

Ewch i wefan Party Street i gael rhagor o wybodaeth.

Ffilmio a ffotograffiaeth

Gall ffilmio a ffotograffiaeth yn nigwyddiadau'r cyngor a'r ddinas gael eu cynnal gan naill ai weithwyr y cyngor neu gontractwr penodedig.

Gall delweddau o ddigwyddiadau o'r fath gael eu defnyddio o fewn cyhoeddusrwydd y cyngor yn ymwneud â'r digwyddiad ei hun, neu at ddibenion cyffredinol, megis o fewn dogfennau'r cyngor.  Gallai'r rhain fod ar ffurf mewn print neu’n ddigidol, gan gynnwys ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r holl ffotograffiaeth yn cael ei storio a'i defnyddio yn unol â rheoliadau priodol, a bydd caniatâd penodol yn cael ei drafod gyda'r rhai sy'n gysylltiedig, os yw'n wahanol i'r arferion a ganiateir yn gyffredinol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â public.relations@newport.gov.uk

Llusernau Awyr

Ni ellir lansio llusernau awyr neu lusernau Tsieineaidd oddi ar dir o eiddo Cyngor Dinas Casnewydd neu eu defnyddio mewn digwyddiadau a drwyddedir, a noddir neu a gefnogir gan y Cyngor.

Mae potensial canlyniadau gwael dros ben gan y llusernau i bobl, adeiladau ac anifeiliaid ac maent yn creu perygl o dân.

Ceisiadau i oleuo tŵr cloc y Ganolfan Ddinesig

Dylid gwneud ceisiadau i oleuo tŵr cloc y Ganolfan Ddinesig i godi ymwybyddiaeth o elusennau neu achosion da i public.relations@newport.gov.uk

Mae angen o leiaf bythefnos o rybudd arnom cyn dyddiad y digwyddiad, dylech gynnwys manylion cryno ynghylch pam yr hoffech i'r tŵr gael ei oleuo yn ogystal â manylion cyswllt i chi'ch hun neu'r sefydliad dan sylw.

Bydd y goleuo'n digwydd gyda'r nos.  Rydym yn cadw'r hawl i benderfynu ar gyfnod y goleuo ond, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd am un noson neu ddim mwy nag wythnos. Bydd pob cais yn cael ei ystyried a byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.

Yn gyffredinol, ni fyddwn yn goleuo tirnod i gydnabod neu gefnogi unigolyn oni bai yr ystyrir bod amgylchiadau eithriadol iawn i wneud hynny.

Noder: Gellir gwneud ceisiadau bob blwyddyn – nid yw caniatáu cais un flwyddyn yn gwarantu y caiff ei dderbyn bob blwyddyn ac, yn yr un modd, nid yw gwrthodiad o reidrwydd yn golygu na chaiff ei ganiatáu yn y dyfodol.

Gellir gwrthod ceisiadau am nifer o resymau. Er enghraifft, ni fydd tŵr y cloc yn cael ei oleuo yn ystod unrhyw gyfnod cyn etholiad. Os oes cais wedi'i ganiatáu ond yna na fydd modd i ni oleuo'r tŵr am unrhyw reswm, byddwn yn hysbysu'r person neu'r sefydliad a wnaeth y cais.

Gwrthderfysgaeth a Pharatoi at Ddigwyddiadau

Rhaid i drefnydd pob digwyddiad ystyried ProtectUK fel rhan o'u parodrwydd Gwrthderfysgaeth.

Dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried y digwyddiad y maent yn ei drefnu, nodi a oes unrhyw beryglon neu fethodolegau ymosod penodol a allai fod yn berthnasol i'w digwyddiad a gweithredu mesurau lliniaru perthnasol. Mae'r canllawiau'n helpu trefnwyr drwy'r broses hon.

Mae Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Gwent, sy'n gweithio gyda'r Heddlu a Swyddogion Gwrthderfysgaeth, wedi cynhyrchu canllaw i helpu trefnwyr digwyddiadau. Dylai trefnwyr ystyried cynnwys y canllaw hwn ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau yng Nghasnewydd.

E-Ddysgu ACT ar Wrthderfysgaeth

Dylai trefnwyr digwyddiadau gwblhau Hyfforddiant ar-lein ACT i godi eu hymwybyddiaeth a'u parodrwydd. Mae'n argymell bod trefnydd y digwyddiad, y swyddog diogelwch ac unrhyw staff diogelwch neu stiwardio wedi cwblhau'r hyfforddiant hwn.

Am ragor o wybodaeth ar ddiogelwch digwyddiadau

Mae’r Gweithrediaeth Iechyd a Diogelwch yn rhoi arweiniad ar reoli digwyddiadau’n ddiogel ac mae llawer o’r canllawiau ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Cyswllt:

E-bostiwch GYD Digwyddiadau Casnewydd yn environmental.health@newport.gov.uk