Pridiannau tir lleol

Mae pridiant tir lleol yn gyfyngiad neu'n waharddiad sy'n rhwymo perchnogion olynol eiddo.

Mae adran pridiannau tir lleol y cyngor yn cynnal holl chwiliadau swyddogol y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ar gyfer tir ac eiddo yng Nghasnewydd, ac mae'n bodoli i amddiffyn darpar brynwyr eiddo yn yr ardal.

Mae'r adran yn cynnal y Gofrestr Pridiannau Tir ac yn cadw'r gofrestr Tir Comin a Meysydd Pentrefi.

Chwiliad gan yr awdurdod lleol

Mae chwiliad llawn gan yr awdurdod lleol yn cynnwys ymholiadau LLC1 a CON29(R) a byddant yn cael eu cwblhau o fewn 5 niwrnod gwaith o'r dyddiad cofrestru.  

1) LLC1

Chwiliad o'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yw hwn a gallai ddatgelu cyfyngiadau ar yr eiddo sy'n rhwymo perchnogion olynol e.e. caniatâd cynllunio, arwystlon ariannol, gorchmynion cadw coed a hysbysiadau gorfodi, adeiladau rhestredig.  

2) CON29 (R)

Mae hwn yn rhoi ymatebion i'r ymholiadau ar ffurflen y cytunwyd arni'n genedlaethol, ynghyd â Thystysgrif Chwiliad Swyddogol.   

Gallai'r wybodaeth sy'n cael ei chynnwys yn y chwiliadau hyn gynnwys:

  • gorchmynion prynu gorfodol
  • gorchmynion cadw coed arfaethedig
  • hysbysiadau o dan y Deddfau Cynllunio, Priffyrdd ac Iechyd y Cyhoedd nad ydynt i'w gweld ar unrhyw gofrestr
  • cynigion ynghylch ffyrdd (gan gynnwys ehangu'r ffordd)  

Efallai y byddwch am ofyn am ymholiadau dewisol hefyd, fel:

  • cynigion gan gyrff preifat ar gyfer ffyrdd
  • llwybrau cyhoeddus neu gulffyrdd
  • piblinellau
  • ardaloedd menter
  • tir comin neu feysydd pentrefi

Gwneud cais am chwiliad 

Gofynnwch i'ch cyfreithiwr weithredu ar eich rhan, fel rhan o'r broses drawsgludo, neu cysylltwch â ni am gyngor gan ddefnyddio'r manylion isod.  

Derbynnir ceisiadau am chwiliadau drwy'r Post/DX drwy'r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol.

Anfonwch e-bost atom i ofyn an cais chwiliad.

Chwiliadau personol

Efallai y bydd rhai cyfreithwyr yn defnyddio cwmnïau chwilio personol i gynnal chwiliad lleol.

Caiff asiantau chwiliadau personol ac aelodau'r cyhoedd edrych ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol am ddim. 

Nid yw'r Cyngor yn darparu unrhyw waith papur, felly'r unigolyn sy'n gyfrifol am wneud nodyn o unrhyw wybodaeth berthnasol wrth archwilio'r data.   

Bydd gwybodaeth Con 29 nad yw ar gael ar unrhyw gofrestr gyhoeddus yn cael ei darparu ar ffurf data crai sydd ar gael i edrych arno yn unig.

Bydd adroddiad pwrpasol yn cael ei ddarparu ar ôl talu ffi weinyddol. 

Cysylltwch â'r adran pridiannau tir isod i gael gwybod ble mae'r wybodaeth yn cael ei chadw a chyflwynwch eich cais yn ysgrifenedig i'r adran berthnasol.

Caiff asiant chwiliadau personol gynnal nifer di-ben-draw o chwiliadau. 

Ffioedd O 1 Ebrill 2023

    £ TAW i'w thalu? TAW Cyfanswm £
Ffurflen LLC1 (statudol)   6.00 Nac oes 0 6.00
Ffurflen CON29R   118.56 Oes 23.71 142.27
Ffurflen LLC1 a CON29R (chwiliad swyddogol) 124.56 Rhan 23.71 148.27
Ffurflen CON29O (ymholiadau dewisol) fesul cwestiwn
Codir am gwestiynau 5,6,9,15,17,18, 19,20,21 fesul uned/llain o dir sy'n cael ei chwilio
Ffurflen CON29O cwestiwn 22 yn unig
Cwestiynau 4 i  21 14.00 Oes 2.80 16.80
  17.00 Oes 3.40 20.40
Ffurflen CON29O yn unig - ffi weinyddol 5.00 Oes 1.00 6.00
Cwestiynau'r cyfreithiwr ei hun 28.08 Oes 5.62 33.70
Pob llain ychwanegol LLC1 1.00 Nac oes 0.0 1.00
Pob llain ychwanegol CON29R 27.04 Oes 5.41 32.45
Pob llain ychwanegol LLC1
a CON29R
28.04 Rhan 5.41 33.45
Chwiliadau personol   Dim ffi   0 0
Ymholiadau ynghylch chwiliadau personol £28.08 yr awr neu ran o awr 28.08 Oes 5.62 33.70
Copi o ddetholiad priffyrdd (CON29R) 25.00 Oes 5.00 30.00
Copi o ddogfennau drwy'r e-bost 12.50 Oes 2.50 15.00
Copïau caled o gopïau o ddogfennau Cytundebau Adran 106 a 38 25.00 Oes 5.00 30.00
  Gorchymyn Prynu Gorfodol 50.00 Oes 10.00 60.00
  Pob dogfen arall 12.50 Oes 2.50 15.00

'Mae parseli ychwanegol yn eiddo sydd â ffin gyffredin, er enghraifft, gall tŷ fod wedi’i drawsnewid yn 2 fflat ac efallai y byddwch am chwilio’r adeilad cyfan. Yn hytrach na chyflwyno dau chwiliad unigol, gallech dalu ffi ychwanegol i gynnwys yr ail gyfeiriad yn yr un chwiliad.

Os ydych yn chwilio ar nifer o barseli mewn un ardal codir tâl am rai o'r ymholiadau dewisol fesul uned a chwilir oherwydd bod pob cyfeiriad unigol yn cael ei chwilio i ateb yr ymholiad. Cysylltwch â'r tîm pridiannau tir i gael y ffi gywir.'

O dan bolisi canslo'r cyngor, bydd 50% o ffi'r chwiliad yn cael ei ad-dalu, ar yr amod nad yw un o gwestiynau chwiliad Con29 wedi cael ei ateb.

Ni fydd ad-daliad yn cael ei roi os bydd ffurflen LLC1 yn cael ei chanslo.

Apwyntiadau

E-bostiwch yr adran Pridiannau Tir Lleol yn [email protected] i drefnu apwyntiad. Byddwch yn cael slot apwyntiad lle gallwch gyrraedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw ond rhaid i chi adael erbyn diwedd yr amser a neilltuwyd.

Oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, gallai rhai slotiau apwyntiadau newid. Os bydd yn rhaid canslo apwyntiad bydd apwyntiad newydd yn cael ei drefnu mor agos at y gwreiddiol â phosibl.