Noddi cylchfan
Noddi cylchfan
Hyrwyddwch eich busnes drwy noddi cylchfan yng Nghasnewydd
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig opsiwn effeithiol a chost-effeithiol ar gyfer hyrwyddo eich busnes.
Mae tua 150,000 o bobl yn byw yn y ddinas ac mae miloedd mwy yn ymweld â hi ar gyfer gwaith a hamdden bob dydd.
Wedi'u lleoli wrth yr M4 gyda chwe chyffordd yn gwasanaethu'r ddinas, mae ein cysylltiadau ffordd yn rhagorol.
Mae cyfleoedd ar gael i noddi cylchfannau ar hyd rhai o brif lwybrau'r ddinas ac yn amrywio o £3,000 i £4,000 (ynghyd â TAW) ar gyfer contract blwyddyn o hyd.
Mae hysbysebu ar un o gylchfannau Casnewydd yn rhoi cyfle i chi sicrhau bod neges eich busnes yn cael ei gweld 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, o lai na £60 yr wythnos.
Mae llawer o'n cylchfannau hefyd yn cynnwys arddangosfeydd planhigion hardd ac yn destun gwaith cynnal a chadw a thacluso wedi'i drefnu – gan warantu’r safle a’r gwelededd gorau.
Mae gwasanaeth dylunio mewnol ar gael hefyd os hoffech chi gael help i ddatblygu eich hysbyseb.
I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch grounds.general@newport.gov.uk neu ffoniwch 01633 656656.