Rhyddfreinwyr ar y Tir

Y Dreth Gyngor a Rhyddfreinwyr ar y Tir

Mae'r mudiad Rhyddfreinwyr ar y Tir a grwpiau tebyg yn credu'n gyffredin eu bod wedi'u rhwymo ddim ond gan ddeddfau statud y maent yn cydsynio iddyn.

Nid yw bod yn 'rhyddfreiniwr' yn eithrio unrhyw berson rhag talu’r Dreth Gyngor. Nid yw’r Dreth Gyngor yn ddewisol ac nid yw’n rhywbeth rydych yn cydsynio iddo. Os ydych yn atebol i dalu Treth Gyngor, rhaid i chi wneud eich taliadau.

Mae'r atebolrwydd i dalu Treth Gyngor yn dod o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a rheoliadau diweddarach. Mae hwn yn statud a grëwyd gan Senedd y Deyrnas Unedig a etholwyd yn ddemocrataidd sydd wedi derbyn cydsyniad y Goron.

Am ragor o wybodaeth gweler: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (legislation.gov.uk)

Mae'r Atebolrwydd i dalu Treth Gyngor yn cael ei osod gan Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992. Mae hyn yn rhoi'r hawl i awdurdodau lleol fynnu Treth Gyngor a ddefnyddir i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol.

Am ragor o wybodaeth gweler: Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (legislation.gov.uk)

Nid yw eich atebolrwydd am dreth gyngor yn ddibynnol ar eich cydsyniad nac yn gofyn amdano, nac ar fodolaeth perthynas gytundebol gyda'r cyngor. Mae unrhyw honiad i'r gwrthwyneb yn anghywir ac nid oes sail gyfreithiol i wneud y ddadl hon arno.

Mae dadleuon Rhyddfreinwyr ar y Tir wedi cael eu hystyried gan y llysoedd a dyfarnwyd yn eu herbyn a bydd unrhyw un sy'n atal taliad, yn agored i gamau adennill a gymerir yn eu herbyn. Pe bai angen i'r Cyngor gymryd camau adennill bydd costau ychwanegol yn cael eu hychwanegu i swm sy'n ddyledus.

Yn achlysurol iawn rydym yn cael pobl sy'n argyhoeddedig bod defnyddio cyfraith hynafiaethol yn golygu nad oes rhaid iddyn nhw dalu’r dreth gyngor ac mae llawer o erthyglau a thempledi camarweiniol ar y we ynghylch cyfreithlondeb y dreth gyngor. Dylai unrhyw un sy'n dibynnu ar y rhain am gyngor fod yn ofalus a cheisio cyngor cyfreithiol priodol cyn eu defnyddio fel amddiffyniad yn erbyn atebolrwydd treth gyngor yn seiliedig ar gontract, cydsyniad a chyfraith gyffredin.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch codi’r dreth gyngor, gofynnwch am gyngor cyfreithiol priodol, yn hytrach na dibynnu ar ffynonellau rhyngrwyd neu ddatganiadau fforwm a allai fod yn anghywir neu'n gamarweiniol.

Er ein bod yn gwneud ein gorau i ateb pob ymholiad perthnasol am y dreth gyngor, rydym yn cadw'r hawl i wrthod ymateb i ymholiadau annilys hir sy'n canolbwyntio ar ddadleuon damcaniaethol nad oes ganddynt sail mewn statud sy'n defnyddio ein hadnoddau ar draul trethdalwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys llythyrau a hysbysiadau a gyflwynir i brif weithredwr y cyngor gyda'r un rhesymu camarweiniol.