Iechyd a diogelwch

Fel cyflogwr, mae gennych ddyletswydd i'ch gweithwyr a hefyd i gontractwyr allanol ac aelodau'r cyhoedd y gallai eich gweithgareddau gwaith effeithio arnynt. 

Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch er mwyn:

Damweiniau a salwch

Mae'n rhaid rhoi gwybod am anafiadau a digwyddiadau penodol ac achosion penodol o glefydau'n gysylltiedig â gwaith o dan Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR).

Ewch i dudalennau gwe RIDDOR i ddarganfod beth ddylai gael ei adrodd a sut i'w adrodd.

Rhaid gwneud adroddiad o fewn 10 niwrnod ac yna byddwn yn asesu'r amgylchiadau a gallem gynnal ymchwiliad.

Damweiniau sy'n analluogi am fwy na thridiau

O dan RIDDOR, nid oes angen i chi roi gwybod am ddamweiniau sy'n analluogi am fwy na thridiau mwyach, ond mae'n rhaid i chi o hyd gadw cofnod o'r ddamwain os bydd y gweithiwr wedi'i analluogi am fwy na thri diwrnod yn olynol.

Os ydych chi'n gyflogwr a rhaid i chi gadw llyfr damweiniau o dan Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Hawliadau a Thaliadau) 1979, bydd y cofnod hwnnw'n ddigon.

Hefyd, dylech gadw cofnod o unrhyw ddigwyddiad nad yw'n arwain at anaf adroddadwy, ond a allai fod wedi gwneud.

Cysylltu

Cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd yng Nghyngor Dinas Casnewydd am ragor o wybodaeth.