Trwydded amgylcheddol

Pe gallai eich busnes effeithio ar yr amgylchedd trwy lygredd aer, tir neu ddŵr, yna bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd amgylcheddol i Gyngor Dinas Casnewydd.

Ewch i Gov.UK i wirio os ydych angen trwydded 

Ffioedd a thaliadau

Llywodraeth Cymru sy'n pennu ffioedd trwydded amgylcheddol

Gwerthusiad cais

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried yr amserlen darged (pdf) wrth ystyried cais am drwydded.

Nid yw cydsyniad mud yn berthnasol, oherwydd ei fod er budd y cyhoedd bod cais yn cael ei brosesu cyn y gellir ei ganiatáu.

Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r cyngor

Cofrestr Gyhoeddus

Mae'n ofynnol i ni gynnal cofrestr gyhoeddus gyda gwybodaeth am yr holl osodiadau LA-IPPC a LAPPC ac offer symudol yr ydym yn gyfrifol amdanynt.

Gweler Cofrestr Gyhoeddus Cyngor Dinas Casnewydd (pdf)

Am ragor o fanylion am drwyddedau penodol, e-bostiwch [email protected] 

Cyswllt

Cysylltwch â thîm iechyd yr amgylchedd yng Nghyngor Dinas Casnewydd