Mae angen trwydded gan Gyngor Dinas Casnewydd er mwyn casglu arian at achos da ar y stryd neu mewn man cyhoeddus yng Nghasnewydd.
Dylai'r cais am drwydded gyrraedd o leiaf mis cyn y dyddiad casglu arfaethedig - cysylltwch â'r tîm trwyddedu isod cyn i chi wneud cais i weld a yw'r dyddiad sydd gennych mewn golwg ar gyfer y casgliad ar gael.
Rhaid cyflwyno awdurdodiad gan yr elusen i gasglu ar ei rhan gyda'r cais. Nid oes ffi am wneud cais.
Gwneud cais am drwydded casglu ar y stryd
Mae cydsyniad dealledig yn berthnasol, sy'n golygu y gallwch weithredu fel petai'ch cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol ar ôl dau fis.
Rhaid dychwelyd datganiad ariannol o fewn mis o'r dyddiad casglu, wedi'i lofnodi gan yr ymgeisydd a chyfrifydd cymwysedig.
Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallai caniatâd i gasglu yn y dyfodol gael ei wrthod.
Lawrlwythwch ffurflen ddatganiad casglu ar y stryd (pdf) a'i dychwelyd drwy'r post neu chwiliwch amdani ar-lein.
Nid oes angen trwydded ar gasglwyr arian trwy ddebyd uniongyrchol; cysylltwch â'r tîm trwyddedu i drafod pryd rydych chi'n bwriadu casglu.
Trwydded casglu o dŷ i dŷ
Mae angen trwydded i gasglu arian neu nwyddau rydych chi'n bwriadu eu gwerthu'n ddiweddarach ar ran elusen.
Dylai'r cais gyrraedd o leiaf mis cyn y dyddiad casglu arfaethedig; nid oes ffi am wneud cais.
Rhaid cyflwyno awdurdodiad gan yr elusen i gasglu ar ei rhan gyda'r cais.
Os ydych yn gwneud cais ar ran cwmni casglu dillad gyda'r bwriad o gasglu ar ran elusen, rhaid i chi gyflwyno'r cytundeb neu'r contract diweddar rhwng y cwmni a'r elusen.
Gwneud cais am drwydded casglu o dŷ i dŷ
Nid yw cydsyniad dealledig yn berthnasol - mae er budd y cyhoedd i'r awdurdod brosesu'ch cais cyn y gellir rhoi caniatâd. Os na fyddwch wedi cael ymateb o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael y drwydded a thystysgrif; rhaid anfon y dystysgrif at Lyfrfa Ei Mawrhydi.
Dylech fod yn ymwybodol o unrhyw barthau rheoli galw diwahoddiad yng Nghasnewydd.
Rhaid dychwelyd datganiad ariannol o fewn mis o bob dyddiad casglu, wedi'i lofnodi gan yr ymgeisydd a chyfrifydd cymwysedig.
Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallai caniatâd i gasglu yn y dyfodol gael ei wrthod.
Nid oes angen trwydded ar gasglwyr arian trwy ddebyd uniongyrchol; cysylltwch â'r tîm trwyddedu i drafod pa ddyddiadau sydd ar gael.
Cysylltu
Anfonwch e-bost at environment.licensing@newport.gov.uk neu gofynnwch am y tîm trwyddedu yng Nghyngor Dinas Casnewydd.