Gefeillio

Mae gan Gasnewydd chyswllt gefeillio rhyngwladol, sef Heidenheim yn yr Almaen a Kutaisi yn Georgia.

Heidenheim

Sefydlwyd y cyswllt gyda Heidenheim yn 1980 ac mae wedi ffynnu gyda chyswllt rheolaidd rhwng y ddwy ardal.

Mae cyfnewid dinesig yn parhau ar gyfer digwyddiadau mawr, gan gynnwys ymweliad y Frenhines Elisabeth â Chasnewydd yn 2002, yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004 a Chwpan Ryder yn 2010.

Ceir cyfnewidiadau rhwng y Côr Ffilharmonig Casnewydd a Heidenheim Oratorienchor ac yn 2013 dathlodd y corau 23 mlynedd o gyfeillgarwch.

Sefydlwyd cyswllt newydd rhwng Ysgol Gyfun Caerllion ac Ysgol Gymnasium Schiller yn Heidenheim yn 2011 sy'n profi’n fuddiol i fyfyrwyr o'r ddwy ardal.

Kutaisi

Mae'r trefniant gefeillio rhwng Casnewydd a Kutaisi, Georgia yn dyddio o 1989. Kutaisi yw'r ail ddinas yn Georgia, mewn lleoliad prydferth rhwng mynyddoedd y Cawcasws a'r Môr Du.

Sefydlwyd Cymdeithas Gefeillio Casnewydd - Kutaisi i hyrwyddo cyfeillgarwch rhyngwladol ac i gryfhau'r cysylltiadau rhwng y ddwy gymuned.

Maent yn cyfarfod yn ffurfiol bob dau fis, fel arfer yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd, gyda digwyddiadau anffurfiol eraill trwy gydol y flwyddyn.

Mae'r gymdeithas yn gymysgedd o bobl sydd â diddordeb mewn diwylliant Georgaidd, amryw o grwpiau a sefydliadau proffesiynol a chynrychiolwyr o Gyngor Dinas Casnewydd sy'n cefnogi'r sefydliad.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cymdeithas Casnewydd - Kutaisi