Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Mae Seicolegwyr Addysg (SA) yn helpu ysgolion, ysgolion meithrin a’r cyngor i wneud penderfyniadau er lles gorau plant a phobl ifanc ag anawsterau sy’n effeithio ar eu dysgu a’u datblygiad.

Bydd ysgol feithrin neu ysgol bob tro’n gofyn i rieni roi cydsyniad ysgrifenedig cyn i SA gychwyn gweithio â phlentyn neu berson ifanc. 

Weithiau, mae’n bosibl y bydd y rhieni am i’r SA weld eu plentyn cyn i'r ysgol benderfynu bod angen hyn.

Yn yr achosion hyn, rydym yn gofyn i rieni drafod eu pryderon â’r ysgol yn gyntaf ac yna, os yw’n briodol, gellir gwneud atgyfeiriad at yr AGC trwy’r ysgol.

Lawrlwythwch ein taflen Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr (pdf)

Yng Nghasnewydd, mae SAau wedi cofrestru â Chyngor Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal ac mae gan bob ysgol yng Nghasnewydd gysylltiad â SA. 

Beth rydyn ni’n ei wneud

Mae SAau yn gweithio â’r ysgol, yn arsylwi ar blentyn mewn dosbarth neu'n chwarae, siarad ag aelodau staff allweddol, edrych ar waith, ymddygiad neu ddatblygiad plentyn a thrafod cynlluniau a strategaethau sydd mewn lle.

Weithiau bydd y SA yn siarad â phlentyn mewn ardal dawel i gael ei farn a chwblhau asesiad.

Yna, bydd y SA, aelodau staff allweddol ac weithiau rhieni yn llunio cynllun ar y cyd o gamau gweithredu i helpu’r plentyn yn yr ysgol.

Caiff cofnod o’r trafodaethau a’r camau gweithredu y cytunir arnynt ei anfon at y rhiant neu ofalwr a’r ysgol.

Yn aml, ar ôl gweithio â’r ysgol, cynhelir cyfarfod rhwng y SA a rhiant neu ofalwr.   

Mae o fudd rhoi amser i weld a yw’r cynllun gweithredu cytunedig yn gweithio cyn gofyn am adolygiad.

Fodd bynnag, gall rhiant neu ofalwr ofyn am gyfarfod â SA ar unrhyw adeg trwy’r ysgol neu drwy gysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y gwasanaeth seicoleg addysg.

Cydsyniad

Mae angen cydsyniad rhiant neu ofalwr ar SA cyn trafod neu gyfarfod â phlentyn neu berson ifanc, oni bai fod y person ifanc yn ddigon hen i roi ei gydsyniad ei hun ac yn gofyn am gael cadw’r cyfweliadau’n breifat.  

Sicrhau ansawdd

Caiff ein holl SAau eu gwirio trwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ac maent yn gweithio'n unol â chod ymarfer cenedlaethol cytunedig.

Fel seicolegwyr ymarferol, maent wedi cofrestru â Chyngor Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd, sy’n monitro cymhwysedd i ymarfer y mae’n ei gynnal trwy oruchwyliaeth rheolaidd a datblygiad proffesiynol parhaus.

Rydym yn gofyn i ysgolion ac ysgolion meithrin am adborth ac awgrymiadau ar gyfer gwella.

Adborth

Byddem yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau sydd gennych i’n helpu i wella’r gwasanaeth. 

Rhieni a gofalwyr – rhannwch eich sylwadau

Plant a phobl ifanc – rhannwch eich sylwadau

Hysbysiad preifatrwydd - Gwasanaeth seicoleg addysg (pdf)

Cysylltu

Cysylltwch â Chyngor Dinas Caerdydd a gofyn am y gwasanaeth seicoleg addysg. 

TRA88904 03/08/2018