Diweddariad COVID-19
Cerbydau Newydd yn Unig: Oherwydd cyfyngiadau presennol Covid-19 unwaith y bydd y cerbyd yn pasio'r prawf byddwch yn derbyn e-bost gyda chopi papur o’r drwydded, ac yna’r platiau cefn a mewnol a bydd copi pellach o'r drwydded bapur yn cael ei anfon drwy’r post dosbarth cyntaf o fewn 5 diwrnod gwaith.
Ni fyddwch yn gallu defnyddio'r cerbyd i weithio nes i chi dderbyn y platiau ac anfon llun atom o'r plât cefn wedi’i roi ar y cerbyd yn ddiogel.
Cerbydau Adnewyddu yn unig: oherwydd y cyfyngiadau Covid-19 presennol, unwaith y bydd y cerbyd yn pasio'r prawf byddwch yn derbyn e-bost gyda chopi papur o’r drwydded a bydd hwn hefyd yn cael ei e-bostio at eich gweithredwr (os yw'n berthnasol).
Cyn belled â bod gan y cerbyd y lifrai gofynnol ar y cerbyd (h.y. sticeri drws a'r plât cefn), yna gallwch ddechrau gweithio.
Byddwch yn derbyn y drwydded fewnol drwy’r post o fewn 5 diwrnod gwaith.
Darllenwch ein Polisi Cerbydau Haci a Llogi Preifat (pdf) cyn gwneud cais am drwydded.
Rhaid i unrhyw gerbyd sydd wedi'i drwyddedu fel Cerbyd Hacni neu Gerbyd Llogi Preifat fod yn addas i gludo aelodau o'r cyhoedd a rhaid iddo gydymffurfio â’r manylebau cerbydau a nodir ym mholisïau'r Cyngor.
Gweld rhestr o’r cerbydau llogi preifat a dderbynnir gan y Cyngor (pdf)
Gofynion cerbydau safonol Ewropeaidd
Caiff ceisiadau am drwyddedau Cerbyd Hacni a Cherbyd Llogi Preifat newydd a throsglwyddiadau eu cymeradwyo dim ond ar gyfer cerbydau sy'n bodloni Safon Ewro 5.
Caiff deiliad trwydded cerbyd presennol, h.y. perchennog sydd wedi dal trwydded gyfredol cyn cyflwyno'r polisi ac sydd wedi parhau i adnewyddu'r drwydded hon, newid y cerbyd ar y drwydded honno os yw'r cerbyd yn bodloni’r safonau Ewro 4 gofynnol.
Dim ond i newid cerbydau sy'n bodloni safon Ewro 5 y rhoddir trwyddedau cerbydau a roddir ar ôl cyflwyno'r polisi.
Safonau Ewro
|
Safon Ewro
|
Adeg gyflwyno
|
Ewro 2
|
Ionawr 1996
|
Ewro 3
|
1 Ionawr 2000 tan 31 Rhagfyr 2004
|
Ewro 4
|
1 Ionawr 2005 tan 31 Awst 2009
|
Ewro 5
|
1 Medi 2009 tan 31 Awst 2014
|
Ewro 6
|
1 Medi 2014
|
Cyflwynodd rhai gweithgynhyrchwyr cerbydau y safonau Ewro i'w cerbydau cyn y dyddiadau hyn felly mae'n bosibl, er enghraifft, y gellid sgorio cerbyd fel Ewro 5 cyn 1 Medi 2009 yn dibynnu ar y gwneuthuriad a’r model.
Lawrlwytho’r amodau ar gyfer cerbydau hacni (pdf)
Lawrlwytho’r amodau ar gyfer cerbydau llogi preifat (pdf)
Gwybodaeth ychwanegol
Teledu Cylch Cyfyng (TCC)
Gall systemau TCC greu amgylchedd diogelach i yrwyr a theithwyr trwy:
Mae hefyd yn galluogi teithiwr ychwanegol i eistedd yn sedd flaen Cerbyd Hacni.
Os hoffech osod TCC mewn cerbyd trwyddedig, rhaid i chi gydymffurfio â Chod Ymarfer TCC y Comisiynydd Gwybodaeth (pdf) a fabwysiadwyd gan y Cyngor.
Pan fod offer TCC wedi’i osod, rhaid i berchennog trwydded y cerbyd a’r unigolyn a osododd yr offer lofnodi’r Cod Ymarfer.
Os oes angen, dylai’r rheolydd data lofnodi hefyd ac yna dylai’r ddogfen gael ei rhoi i’r adran drwyddedu.