Dod yn gynghorydd

Caiff cynghorwyr, a elwir hefyd yn Aelodau'r Cyngor, eu hethol gan aelodau'r gymuned leol i gynrychioli eu barn a bod yn gyfrifol am y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yn ardal cyngor yn ddinas.

Cael eich ethol

I fod yn gynghorydd lleol, mae angen i chi fod yn 18 oed o leiaf ac yn un o ddinasyddion Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu'r Undeb Ewropeaidd.

Hefyd, bydd angen i chi fodloni un neu fwy o'r gofynion hyn:

  • rydych wedi cofrestru i bleidleisio yn yr ardal
  • rydych wedi bod yn rhentu neu'n berchen ar dir neu eiddo yn yr ardal am y cyfan o'r 12 mis diwethaf
  • rydych wedi bod â'ch prif swydd yn yr ardal yn ystod y 12 mis diwethaf
  • rydych wedi byw yn yr ardal am y cyfan o'r 12 mis diwethaf

Ni allwch sefyll i gael eich ethol:

  • rydych yn gweithio i'r cyngor mewn rôl sydd â chyfyngiad gwleidyddol
  • os ydych chi'n gweithio i gyngor neu gorff cyhoeddus arall (er enghraifft y gwasanaeth tân) mewn swydd sydd wedi'i chyfyngu'n wleidyddol
  • os ydych chi'n fethdalwr heb eich rhyddhau
  • os ydych wedi'ch cael yn euog o arfer twyllodrus neu anghyfreithlon mewn llys etholiadol yn ystod y pum mlynedd diwethaf
  • os ydych wedi'ch cael yn euog o drosedd ac wedi'ch dedfrydu i dri mis neu fwy yn y carchar, gan gynnwys dedfryd wedi'i gohirio.

Rhaid i chi geisio'ch cyngor cyfreithiol eich hun ar eich cymhwysedd i sefyll fel ymgeisydd. 

Os caiff ei ethol, rhaid i weithiwr y Cyngor ymddiswyddo o'i swydd cyn llofnodi'r datganiad derbyn swydd.

Statws gwleidyddol

Gallwch sefyll fel aelod annibynnol neu gael eich mabwysiadu a'ch enwebu gan blaid wleidyddol sydd â'i phrosesau dethol ei hun ac a allai helpu gyda chanfasio a chostau ariannol.

Beth mae cynghorwyr yn ei wneud?

Mae cynghorwyr yn cynnig cyswllt pwysig rhwng aelodau'r cyhoedd a'r cyngor, gan gynnal cymhorthfeydd i helpu pobl leol, cefnogi mudiadau lleol, ymgyrchu ar faterion lleol a datblygu cysylltiadau â phob rhan o'r gymuned.

Mae cynghorwyr etholedig yn darparu'r polisïau sydd yna'n cael eu rhoi ar waith gan weithwyr sy'n cael eu talu (swyddogion y cyngor).

Mae'r cyngor yn gosod fframwaith a chyllideb ar gyfer gwneud penderfyniadau, a'r Cabinet sy'n gyfrifol am wneud y rhan fwyaf o benderfyniadau.

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd strwythur o bwyllgorau craffu sy'n helpu i lywio penderfyniadau a chraffu ar waith y Cabinet.

Mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr yn aelodau o un neu fwy o'r pwyllgorau craffu neu'r pwyllgorau cynllunio a thrwyddedu. 

Gwyliwch ganllaw i gynghorwyr ar rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Download the WLGA Candidates Guide May 2018 (pdf)

Ymweldwch - www.byddwchyngynghorydd.cymru

Darllenwch am brofiad pobl yn gweithio fel cynghorwyr lleol

Ymrwymiad amser

Cynhelir cyfarfod llawn o'r cyngor bob mis heblaw mis Awst, a gofynnir i gynghorwyr fynychu cyfarfodydd unrhyw bwyllgorau, fforymau neu grwpiau eraill y maent yn aelod ohonynt.

Hefyd, gellid gofyn i gynghorwyr gynrychioli'r cyngor ar gyrff allanol.

Bydd amser sylweddol yn cael ei dreulio ar faterion sy'n cael eu codi gan drigolion y ward.

Mae rhai cyflogwyr yn cynorthwyo eu gweithwyr sy'n gynghorwyr ac yn caniatáu amser rhesymol i ffwrdd. Dylech bob amser drafod hyn gyda'ch cyflogwr cyn sefyll fel cynghorydd.

Lwfansau

Nid yw cynghorwyr yn cael eu cyflogi gan y cyngor, ond mae hawl ganddynt i gael lwfansau a threuliau i dalu rhai o gostau cyflawni eu dyletswyddau cyhoeddus.

Mae cynghorwyr yn derbyn lwfans sylfaenol ac mae'r rhai sy'n dal swyddi penodol (er enghraifft, aelod cabinet neu gadeirydd pwyllgor craffu) yn cael lwfans ychwanegol i adlewyrchu'r baich gwaith a'r ymrwymiadau ychwanegol sy'n gysylltiedig.

Ar ôl mabwysiadu, bydd y cynllun lwfansau i 2022/23 yn seiliedig ar yr adroddiad gan Banel Taliadau Annibynnol Cymru

 

Gwybodaeth am daliadau i gynghorwyr gan Lywodraeth Cymru

Cefnogaeth

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd raglen sefydlu ar gyfer cynghorwyr etholedig er mwyn cyflwyno busnes y cyngor a rhoddir hyfforddiant parhaus i gynghorwyr ar fedrau a rolau penodol drwy gydol eu cyfnod yn y swydd.

Caiff cynghorwyr ddefnyddio cyfrifiadur personol sy'n gysylltiedig â rhwydwaith a system e-bost y cyngor.

Bydd swyddogion y cyngor yn rhoi cyngor ar weithdrefnau'r cyngor neu broblemau yn eich ward, ond ni allant helpu gydag unrhyw weithgaredd y gellid ystyried ei fod yn cefnogi neu'n cynorthwyo plaid wleidyddol mewn rhinwedd breifat neu bersonol.

Mae swyddog yn cael ei neilltuo'n bwynt cyswllt cyntaf i bob cynghorydd newydd ar ôl yr etholiad, er mwyn helpu i sicrhau bod y misoedd cyntaf mor hwylus â phosibl.

Tymor mewn swydd

Mae cynghorwyr yn parhau'n Aelod o'r Cyngor hyd nes byddant yn ymddeol neu'n colli'r sedd mewn etholiad dilynol.

Mae cynghorwyr yn gwasanaethu am dymor pum mlynedd rhwng etholiadau.

Mae amgylchiadau yn bodoli a allai arwain at ddiarddel neu wahardd a chaiff y rhain eu hesbonio yn ystod y rhaglen sefydlu.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r rheolwr cofrestru etholiadol yng Nghyngor Dinas Casnewydd