Ardrethi Busnes

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru 2023/24

Mae'r rhyddhad hwn wedi'i anelu at fusnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gynnig y cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau cymwys ar gyfer 2023-24. 

Nod y cynllun yw rhoi cymorth i eiddo cymwys a feddiannir drwy gynnig gostyngiad o 75% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.

Bydd y cynllun yn berthnasol i bob busnes cymwys, ond bydd y rhyddhad yn amodol ar uchafswm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws pob eiddo a feddiannir gan yr un busnes. 

Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y mae’n ei geisio ledled Cymru yn fwy na'r uchafswm hwn, wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar ardrethi annomestig - manwerthu, hamdden a lletygarwch ar gael i'w darllen yma

 

Gwnewch gais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023/24

Talu ardrethi busnes ar-lein

Cofrestru i dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol

Dewis dull talu arall

Gwneud taliad yr Ardal Gwella Busnes

Mae ardrethi busnes yn cael eu galw hefyd yn Ardrethi Annomestig Cenedlaethol ac maen nhw'n berthnasol i'r rhan fwyaf o safleoedd heblaw cartrefi, e.e. siopau, swyddfeydd, ffatrïoedd, canolfannau hamdden, ysgolion ac ati.

Os bydd eiddo yn cael ei ddefnyddio at ddibenion domestig ac annomestig - siop â fflat uwchben, er enghraifft - rhaid talu ardreth annomestig ar y rhan annomestig a'r dreth gyngor ar y rhan ddomestig.

Mae'r cyngor yn casglu ardrethi ar ran Llywodraeth Cymru

Mae biliau'r dreth gyngor wedi'u seilio ar werthoedd ardrethol sydd wedi'u hasesu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) a 'lluosydd' neu gyfradd yn y bunt, sydd wedi'i osod yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru

Yn 2018/19, £0.514 yw'r lluosydd

Yn 2019/20, £0.526 yw'r lluosydd

Ar gyfer 2020/21 a 2021/22 y lluosydd yw £0.535.  

Rateable value

The rateable value is assessed by the Valuation Office Agency (VOA), an agency of HM Revenue and Customs.

A property's rateable value is an assessment of the annual rent the property would achieve if it were available to let on the open market at a fixed valuation date.

From 1 April 2017, the rateable values are based on the valuation date of 1 April 2015

If you think your rateable value is wrong visit the Gov.UK site.

Business rates revaluation 2017 

The VOA reassesses and updates the rateable values of all business properties usually every five years.

This is called a revaluation and is done to maintain fairness in the system by redistributing the total amount payable in business rates, reflecting changes in the property market.

Revaluation does not raise extra revenue overall.

Visit the VOA revaluation web page for more information and to estimate your business rates bill, including any small business rate relief the council may apply.

Rates collected are paid into a central pool and are then redistributed by the Welsh Government to local authorities across Wales to pay for services.

Ewch i Gov.UK i ddysgu rhagor am y dull o gyfrifo ardrethi a'r ailbrisio o 1 Ebrill 2017 ymlaen. 

Mae ardrethi'n cael eu talu i gronfa ganolog ac yna mae Llywodraeth Cymru yn eu hailddosbarthu i awdurdodau lleol ar draws Cymru i dalu am wasanaethau.

Canllawiau 2017/2018

Lawrlwythwch Eich Canllaw i'r Dreth Gyngor ac Ardrethi Annomestig 2017/18 (pdf)

Lawrlwythwch Cyllideb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2017/2018 (pdf)

Pwy sy'n talu ardrethi busnes?

Os bydd eiddo annomestig yn cael ei feddiannu, y meddiannwr fel arfer sy'n gyfrifol am dalu'r ardrethi.

Os na fydd eiddo wedi'i feddiannu, y perchennog neu'r lesddaliwr sy'n gyfrifol fel arfer.

Rhaid i feddiannwyr sydd newydd symud i eiddo annomestig ddarllen y wybodaeth yn yr Holiadur Meddiannu Eiddo (PDF) a chysylltu â'r cyngor cyn gynted â phosibl i roi gwybod pwy sy'n gyfrifol am yr ardrethi busnes. 

Rhaid i feddiannwyr sydd wedi gadael eiddo annomestig gysylltu â'r cyngor cyn gynted â phosibl i roi manylion a llenwi Holiadur Ymadael ag Eiddo (PDF)

Hefyd, gallwch anfon manylion am feddiannu neu ymadael drwy'r e-bost at [email protected] neu drwy lythyr at Blwch Post 887, Casnewydd NP20 9LW.

Sut i dalu

Cofrestrwch ar gyfer Debyd Uniongyrchol neu dewiswch ffyrdd eraill o dalu...

Rhyddhad ardrethi

Mae rhyddhad (gostyngiadau) ac eithriadau ar gael rhag talu, ar sail amrywiaeth o amgylchiadau.

Nid oes ardrethi i'w talu ar rai adeiladau, e.e. adeiladau fferm, eglwysi.

Darllenwch am gynlluniau rhyddhad ardrethi  

Cysylltu

E-bostiwch [email protected], galw 01633 987722 neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd