Canllaw diogelwch ar gyfer gyrwyr tacsi trwyddedig

Mae gyrwyr cerbyd hacni a llogi preifat yn delio â dieithriaid, yn aml mewn mannau anghysbell ac yn cario arian parod.

Os ydych yn gweithio yn y nos, mae'n debyg y bydd rhaid i chi ddelio â phobl sydd wedi yfed gormod o alcohol.

Mae hyn i gyd yn golygu y gallech fod mewn perygl o drais a gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu i gadw'n ddiogel:

Os oes gennych archeb:

• Dylai'ch rheolwr sicrhau bod ganddynt fanylion cyswllt y teithiwr, gan gynnwys cyfeiriad cartref a rhif ffôn

• Dylai rheolwyr gadw rhestr o leoliadau sydd wedi bod yn ffynhonnell trais ac osgoi cymryd archebion ganddynt

• Dylai rheolwyr fod yn glir gyda'r teithiwr ynglŷn â ble rydych chi'n mynd â nhw a beth fydd y pris cyn i chi gychwyn

• Os ydych yn derbyn archeb pellter hir, dylai’r rheolwyr fod yn glir gyda'r teithiwr os yw'r gyrrwr am ofyn am daliad ymlaen llaw

• Os bydd y teithiwr yn newid y daith y maent wedi'i harchebu, rhowch wybod iddynt beth fydd y pris diwygiedig i leihau'r risg o anghydfod yn ddiweddarach, pan fyddwch yn bell o'r swyddfa ac fwyaf mewn risg o drais

• Gadewch i'r rheolwr wybod am unrhyw newid i'r archeb

Rheoli arian:

Os allwch chi, gadewch eich arian parod mewn man diogel yn ystod eich shifft fel eich bod yn cario gyn lleied yn eich car â phosib, neu gadw'ch arian parod wedi'i guddio o'r golwg mewn blwch diogel.

Addasiadau i’ch cerbyd

• Mae rhai gyrwyr yn ffitio sgrin i'w diogelu rhag ymosodiad, wedi'i gwneud o ddeunyddiau sy'n gwrthsefyll ymosodiad cyllell neu drawiad corfforol caled

• Gall camerâu teledu cylch cyfyng helpu, a gallwch eu prynu neu eu rhentu. Gallant fod yn ddefnyddiol pan fo anghydfod gyda theithiwr - nid dim ond eich gair yn erbyn nhw yw wedyn. Os ydych yn bwriadu gosod teledu cylch cyfyng yn eich cerbyd, dylech hysbysu'r tîm trwyddedu yn ysgrifenedig

• Bydd gosod drych amgrwm sy'n rhoi golwg lawn i chi o gefn eich car yn eich helpu chi i weld beth mae’r teithiwr sydd union y tu ôl i chi yn ei wneud

Cariwch gyda chi:

• Ffôn symudol a gwefrydd

• Pad nodiadau a phen i gofnodi unrhyw ddigwyddiadau

• Cerdyn argyfwng gyda'ch enw, dyddiad geni, grŵp gwaed, alergeddau a rhif cyswllt ar gyfer argyfyngau

• Esboniad o'r strwythur prisiau, fel y gallwch ei esbonio i deithiwr sy'n teimlo eich bod wedi codi tâl rhy uchel arnynt

Sut y gall eich ystafell reoli eich helpu:

• Byddwch angen iddynt gael cymorth i chi os ydych mewn trafferth

• Trefnwch air cod ymlaen llaw y gallwch ei ddefnyddio pe bai teithiwr yn mynd yn fygythiol

• Mae gan rai ystafelloedd rheoli GPS a gallant olrhain symudiadau pob cerbyd. Mae gan yrwyr fotwm tawel y gallant ei weithredu mewn argyfwng, sy'n fflachio eu cerbyd ar sgrin y rheolwr

Aros yn ddiogel:

• Os ydych yn gweithio yn y nos, gwnewch yn siŵr nad ydych wedi blino - mae angen i chi fod yn effro bob amser

• Ymddiriedwch yn eich greddf - mae gennych hawl i wrthod teithiwr os credwch y gallent fod yn risg, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cofnodi'r digwyddiad hwn. Mae'n arfer da hysbysu'r tîm trwyddedu a'ch rheolwr

• Dylech agor y ffenestri yn ddigonol i siarad â phobl heb iddynt allu cyrraedd i mewn

• Mae cyfathrebu â'r teithiwr yn bwysig, byddwch yn gwrtais ac yn ddymunol

• Defnyddiwch eich radio i ddweud wrth eich rheolwr eich bod wedi cychwyn ar eich taith, gan ddangos i’ch teithiwr eich bod mewn cysylltiad â'r swyddfa

• Esboniwch y llwybr yr ydych yn bwriadu ei gymryd os ydych yn mynd ar hyd ffordd hirach (er enghraifft, er mwyn osgoi gwaith ffordd) er mwyn atal anghydfod dros y pris

Os ydych yn teimlo dan fygythiad:

• Ceisiwch aros yn dawel, cymerwch anadliadau araf, dwfn i leihau eich pryder

• Byddwch yn ymwybodol o'ch gweithredoedd eich hun a sut y gallant gael eu gweld gan rywun arall

• Os gallwch chi, gyrrwch i ardal brysur gyda golau da, gan fod ardaloedd fel y rhain yn aml â theledu cylch cyfyng

• Os oes gennych sgrin, mae'n debyg eich bod chi'n fwy diogel yn aros yn eich tacsi na mynd allan

• Peidiwch â cheisio rhedeg ar ôl teithiwr sydd heb dalu i chi - mae eich diogelwch yn bwysicach na'r arian

Os ymosodir arnoch:

• Peidiwch â cheisio ymladd yn ôl - mae'n debygol y bydd y trais yn waeth, peidiwch fyth â chymryd y mater yn eich dwylo eich hun

• Defnyddiwch eich corn a'ch goleuadau i ddenu sylw.

• Cysylltwch â'ch ystafell reoli neu ffoniwch 999 i gael help

• Casglwch gymaint o wybodaeth am y person ag y gallwch, e.e. dillad, ymddangosiad, oed ayb.

Ar ôl digwyddiad:

• Ysgrifennwch i lawr bopeth am y digwyddiad - disgrifiad o'r teithiwr, yr hyn a ddywedasant ac a wnaethant

• Os na wnaethoch chi eu galw ar y pryd, cofnodwch yr holl ddigwyddiadau treisgar ar gyfer yr heddlu. Byddwch yn barod i wneud datganiad tyst.   Gall gymryd amser, ond gall atal trais yn y dyfodol i chi ac eraill

• Os yw'ch cerbyd wedi'i fandaleiddio, rhowch wybod i'r heddlu.