Coed


Rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan Gyngor Dinas Casnewydd cyn dechrau ar unrhyw waith sy’n effeithio ar goeden y mae un neu rai o’r canlynol ar waith ar ei chyfer:

Lawrlwytho’r Polisi Coed - Coed o Eiddo CDC (pdf) i gael cymorth a chyngor ynghylch coed y mae’r cyngor yn berchen arnyn nhw.

Lawrlwytho’r CCA ar Goed - Fersiwn a fabwysiadwyd wedi Ymgynghoriad - Ionawr-2017 (pdf)

Coed peryglus

Gellir dymchwel coeden sydd wedi ei diogelu, ond sy’n beryglus, heb gael caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf gan y cyngor.

Dylai perchnogion ganiatáu cyfnod rhybudd o bum niwrnod o leiaf o fwriad i ddymchwel coeden farw neu beryglus, er mwyn i ni gael cyfle i’w hastudio a chadarnhau bod angen gweithredu.

Mewn argyfwng, ffoniwch (01633) 656656 a gofyn am y tîm gwasanaethau gwyrdd.

Galllai’r cyngor erlyn perchennog os yw o’r farn ei fod wedi gweithredu heb reswm da, ac ar y perchennog y mae’r baich profi. 

Pan fo coeden farw neu beryglus wedi ei dymchwel, mae angen i’r perchennog blannu coeden newydd yn yr un lle oni chytunwn nad oes angen gwneud hynny.

Hysbyswch y cyngor am goeden wedi disgyn

Coed sy’n eiddo i ac a reolir gan y cyngor

Mae’r rhain yn debygol o gynnwys coed ar ochrau heolydd, ymylon, llwybrau troed a hawliau tramwy, mewn parciau neu fannau agored, tiroedd ysgol, mynwentydd, llyfrgelloedd, rhandiroedd a safleoedd eraill mae’r cyngor yn berchen arnynt.

Coed ar eiddo preifat

Cyn gwneud unrhyw waith ar goeden ar eiddo preifat, gan gynnwys tocio, dylech wirio a oes gorchymyn cadwraeth coed neu a yw hi o fewn ardal cadwraeth ddynodedig neu a oescyfamod cyfreithiol ar waith.

Fe’ch cynghorir yn gryf i’n holi ni am gyfarwyddyd os oes gennych unrhyw amheuaeth.

Cysylltwch a Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm gwasanaethau gwyrdd.

Problemau cyffredin gyda choed

Golwg – nid ydym yn gwneud unrhyw waith tocio yn unswydd i wella golwg coed.

Yr hawl i olau – nid oes hawl statudol na chyfraith gyffredin i olau yn y DU ac ni fyddwn yn gwneud gwaith ar goed i gynyddu golau naturiol neu i leihau cysgod. Fodd bynnag, pan fo dwy neu ragor o goed bythwyrdd neu rannol fythwyrdd wedi eu plannu mewn llinell ac y gellid, o bosibl eu hystyried yn glawdd, mae’n bosibl y bydd Rhan 8 y Ddeddf Gwrth Gymdeithasol 2003 yn berthnasol. 

Paneli solar – fe’ch cynghorir i ystyried coed sy’n bod eisoes a’u heffaith bosibl nawr ac yn y dyfodol wrth benderfynu a ydych am osod paneli solar. 

Signal teledu neu loeren – nid oes hawl gyfreithiol i signal teledu neu loeren yn y DU ac ni fyddwn yn gwneud gwaith i goed pan effeithir ar signal neu pan gollir signal. Siaradwch gyda darparwr eich gwasanaeth am gyngor ynghylch signal wael. 

Colli golygfa – nid oes hawl i olygfa heb goed yn y DU ac ni fyddwn yn gwneud gwaith ar goed yn unswydd i wella neu adfer golygfa.Rydym yn cadw’r hawl i symud coed mae’r cyngor yn berchen arnynt os gallwn ddangos y byddai hynny’n o fudd i’r tirwedd cyhoeddus.

Dail, ffrwythau, sudd, resin a malurion – mae’r rhain yn disgyn yn naturiol o goed ac ni fyddwn yn gwneud gwaith ar goed i atal hyn nac yn darparu gwasanaeth i’w symud o eiddo preifat, e.e. draeniau a gwteri.Cyfrifoldeb perchennog yr eiddo yw gwneud hyn waeth o ble y daw’r malurion. 

Canghennau’n bargodi – ni fyddwn yn tocio canghennau oni bai eu bod yn gwrthdaro gydag adeilad cyfagos neu fod perygl o wrthdaro o’r fath.Mae gan berchennog neu feddiannwr tir cyffiniol hawl dan y gyfraith gyffredin i docio canghennau sy’n bargodi hyd at y ffin gyhyd ag y gwneir hyn gyda gofal a heb niwed i iechyd hir dymor y goeden. Cysylltwch â ni am gyngor cyn gweithredu. Dylid gwneud unrhyw waith:

  • yn unol â BS 3889:2010 Gwaith ar Goed – Argymhellion
  • ar adeg pan nad ydynt yn dod i ddail neu’n disgyn dail
  • yn unol â deddfwriaeth bywyd gwyllt berthnasol
  • gan gontractwr sydd â chymwysterau ac yswiriant addas
  • mewn ffordd sy’n golygu bod unrhyw doriadau yn cael eu gwaredu’n gyfrifol

Cyngor pellach

Gwiriwch, wastad, fod gan unrhyw gontractwr a ddefnyddiwch i weithio ar goed yswiriant llawn yn erbyn risgiau trydydd parti.

Os gwneir gwaith ar goed heb y caniatâd angenrheidiol, bydd unrhyw gamau gorfodi a weithredir yn cael eu gweithredu yn eich erbyn chi fel perchennog y tir.

Dim ond y ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau sylfaenol yn ymwneud â chadwraeth coed y mae’r wybodaeth hon yn ymwneud.

Os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch am Gyngor Dinas Casnewydd neu ffoniwch (01633 656656) a gofyn am y tîm gwasanaethau gwyrdd.