Cymorth i Wcráin

Ukraine

I unrhyw un sy'n cael ei effeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan ddigwyddiadau yn Wcráin, mae amrywiaeth o gymorth ar gael a ffyrdd y gallwch helpu.

Cartrefi i Wcráin

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddarparu ystafell neu lety i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin yma.

Mae llinell gymorth Wcráin Llywodraeth Cymru bellach yn fyw i gael cyngor, cymorth a chefnogaeth - 0808 175 1508 neu os ydych tu allan i'r DU ffoniwch +44(0) 20 4542 5671.

Mae cyngor ar gael yn y Saesneg a'r Wcráin.

Lawrlwythwch ein pecyn gwybodaeth noddwyr Cartrefi i Wcráin

Ysgolion Hyb

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn falch o allu cynnig lleoedd ysgol i blant a phobl ifanc o Wcráin drwy ein Hysgolion Hyb Wcráin: Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Gynradd Milton.

Bydd y ddarpariaeth Hyb hon yn galluogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd o Wcráin i ddod at ei gilydd, gan leihau teimladau o unigedd ymysg plant a phobl ifanc o Wcráin yn ystod cyfnod o newid sylweddol.

Ewch i ein tudalen 'Ysgolion - Gwneud Cais am Le'

Bydd hyn yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu rhoi mewn amgylchedd ysgol cefnogol yn gyflym, lle gellir eu cynorthwyo mewn modd arbenigol i ymgartrefu yn eu bywyd newydd yng Nghasnewydd.

Rydym wedi nodi’r manteision canlynol o Hyb Addysg Wcráin:

  • Cymorth i leihau teimladau o unigrwydd ymhlith disgyblion, oherwydd bydd disgyblion eraill o Wcráin yn yr ysgolion hyb
  • Cymorth i deuluoedd ymgartrefu yng Nghasnewydd, trwy gynnal sesiynau rhieni yn yr ysgolion hyb
  • Darparu gwasanaethau arbenigol wedi'u targedu ar y safleoedd Hyb, ar gyfer disgyblion sydd angen cymorth caffael iaith a chael mynediad at ystod o wasanaethau i blant a'u teuluoedd
  • Darparu cymorth dwys wedi'i dargedu gan Wasanaeth Lleiafrifoedd Ethnig Gwent ac asiantaethau eraill, i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth staff ymhellach, i gefnogi grwpiau o blant a phobl ifanc o Wcráin yn fwy effeithiol
  • Darparu adnoddau addysgu a dysgu ychwanegol, gan gynnwys mewn Wcreineg a thrwy gefnogaeth staff sy'n siarad Wcreineg 
  • Darparu cymorth ar gyfer pontio traws-gyfnod effeithiol rhwng y ddwy ysgol glwstwr.

Gellir darparu cludiant yn ôl disgresiwn yn unol â'n Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol.

Gwybodaeth gan y Llywodraeth/am Fewnfudo

  • Y Swyddfa Gartref – gweler y ddolen am wybodaeth yn uniongyrchol o wefan y Swyddfa Gartref. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am fisâu. 
  • Y Swyddfa Dramor, Y Gymanwlad a Datblygu – bydd y ddolen hon yn cynnig gwybodaeth am deithio i/o Wcráin FCDO
  • Gellir dod o hyd i restr o gyfreithwyr sy'n darparu cyngor Mewnfudo a Lloches yma

Rhoddion – eitemau ymarferol ac ariannol 

Iechyd Meddwl a lles 

  • Melo Cymru – gall y sefydliad hwn helpu drwy ddarparu adnoddau a ffyrdd o ymdopi gyda chymorth iechyd meddwl a lles 
  • Mind – ar gyfer cymorth a gwybodaeth iechyd meddwl 
  • Meddyg Teulu – os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu, gallwch gysylltu â’ch meddygfa leol am gymorth iechyd meddwl chwilio yma
  • Os ydych yn dod o gefndir mudol ac yn cael anhawster cael gafael ar feddyg teulu, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd drwy. E-bost ABB.HealthInclusionService@wales.nhs.uk a/neu ar 01633 261434 

Sefydliadau cenedlaethol ac elusennau cofrestredig

Sefydliadau Lleol ac Elusennau Cofrestredig