Y Gwir Anrhydeddus, Maer Casnewydd
Y Cynghorydd Martyn Kellaway yw 390fed Maer Casnewydd.
Ganed Martyn yn y Barri, De Morgannwg a threuliodd y rhan fwyaf o'i blentyndod yn Winston Road ar ystâd dai Colcot.
Aeth Martyn i ysgol Gyfun y Barri cyn mynd i Goleg Technegol y Barri i astudio arlwyo.
Mae wedi cael nifer o swyddi yn y Diwydiant Arlwyo. Dechreuodd yn borthor cegin yn yr hyn oedd Butlins, Ynys y Barri, ac yna symudodd i'r Gwesty Rhyngwladol ger Maes Awyr Caerdydd. Dilynwyd hyn gan swydd yn y Dorchester, Park Lane, Llundain i ddysgu'r fasnach arlwyo cyn symud i British Steel yng Nghasnewydd yn Rheolwr Cogyddion.
Mae Martyn bellach yn gweithio i wneuthurwr diodydd adnabyddus yn Swydd Gaerloyw ac yn dal i ymwneud ag arlwyo a chyfleusterau.
Cyfarfu Martyn â'i wraig Helen yn 1989 ar ôl dechrau gweithio yn British Steel. Mae ganddynt fab, Sam, a merch, Becky. Mae Helen yn treulio ei amser sbâr yn garddio.
Mae Martyn yn falch o fod yn Gynghorydd Ward lleol ar gyfer Llanwern - sydd bellach yn cynnwys Trefonnen, Allteuryn, Whitson a’r Redwig.
Ers iddo gael ei ethol am y tro cyntaf yn 2008 mae wedi gwasanaethu ar y Pwyllgorau Cynllunio, Tegwch a Thrwyddedu. Martyn hefyd yw Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Glan Llyn a, tan yn ddiweddar, roedd yn Llywodraethwr ar Fwrdd Ysgol Gynradd Llanmartin.
Mae'n anrhydedd i Martyn gael ei ddewis yn Faer ar gyfer 2022/2023 ac mae'n falch iawn o'i wraig, Helen, am dderbyn rôl y Faeres i gefnogi ei flwyddyn Faerol.
Mae'n edrych ymlaen at gwrdd â dinasyddion Casnewydd a sefydliadau yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
Elusen y Maer 2022/23
Mae'r Maer wedi dewis cefnogi Elliot's Endeavours to End Duchenne a The Burnt Chef Project yn ystod ei flwyddyn yn y swydd.
Mae Elliot’s Endeavours to End Duchenne yn ymdrech i godi arian a gychwynnwyd ac a drefnwyd gan Lucy a Will rhieni balch bachgen bach lleol, Elliot, a gafodd ddiagnosis o Dystroffi Cyhyrol Duchenne yn 3 oed .
Mae teulu Elliot yn gweithio trwy’r dydd, bob dydd i godi arian i gefnogi Duchenne UK i gyflymu triniaethau ar gyfer Dystroffi Cyhyrol Duchenne (neu DMD) i fod ar gael yn eang ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a cheisio sicrhau bod pob claf yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn profion, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Nod The Burnt Chef Project yw dileu stigma iechyd meddwl o fewn y sector lletygarwch. Maent yn gweithio i gefnogi gweithwyr lletygarwch drwy amrywiaeth o wasanaethau iechyd meddwl, er enghraifft drwy’r ap hyfforddiant academi, gwasanaethau cyfrinachol 24/7, hyfforddiant mewnol i staff a chynnal podlediad ar gyfer trafodaethau ar les, iechyd, lletygarwch a pherfformiad.
Dirprwy Faer 2022/23
Dirprwy faer 2022/23 yw'r Cynghorydd John Jones a bydd yn cael ei gefnogi gan ei wraig Maria.
Mae’r Dirprwy Faer yn mynychu digwyddiadau ar ran y Maer. Mae’n hanfodol, felly, y dangosir yr un parch a blaenoriaeth i’r Dirprwy Faer ag a wneir i Faer Casnewydd pan fo’n mynychu digwyddiadau.
Meiri’r gorffennol
Cofnodir i faer cyntaf Casnewydd, Mr Ralph Dery, ddod i’w swydd ym 1314.
Ni chofnodwyd y swydd wedyn tan 1401 pan oedd Roger Thomas yn y swydd. Dros y blynyddoedd bu sawl maer yn y swydd am fwy nag un tymor.
Un o feiri mwyaf adnabyddus Casnewydd oedd John Frost ym 1836, a ddedfrydwyd i farw lai na phedair blynedd yn ddiweddarach am deyrnfradwriaeth yn dilyn ei ran yng ngwrthryfel y Siartwyr.
Newidiwyd y ddedfryd i alltudiaeth oes ac ym 1856 rhoddwyd pardwn llawn iddo a dychwelodd i Gasnewydd.
Swydd y Maer
Prif ddyletswydd y maer yw gweithredu fel Cadeirydd yng nghyfarfodydd llawn y Cyngor, gan sicrhau bod y trafodion yn mynd rhagddynt yn iawn ac y rhoddir gwrandawiad i bob barn.
Y maer hefyd yw dinesydd cyntaf Casnewydd ac mae’n cynrychioli’r cyngor mewn digwyddiadau dinesig a seremonïol yn y ddinas a thu allan iddi.
Yn ystod ei dymor yn y swydd mae’r maer yn anwleidyddol, ac ni all fynychu na chymryd rhan mewn unrhyw faterion dadleuol.
Etholir y maer yng nghyfarfod blynyddol y cyngor i gynrychioli holl bobl Casnewydd, ac mae’n cyflawni rôl seremonïol fel pennaeth mewn enw ar gyfer y ddinas.
Y ffurf gywir i’w gyfarch yw ‘Y Gwir Anrhydeddus, Maer Casnewydd’ a ‘Maeres Casnewydd’.
Wedi’r cyflwyniadau ffurfiol gellir eu cyfarch fel ‘Mr. Maer a ‘Madam Maeres’.
Mae Erthygl 5 (pdf) Cyfansoddiad y Cyngor yn cynnig rhagor o wybodaeth am swydd a swyddogaeth y Maer.
Darllenwch am Gadwyni Swydd y Maer
Cyswllt
Parlwr y Maer, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd
NP19 4UR
Ffôn (01633) 656656
E-bost mayors.office@newport.gov.uk