Academi Ieuenctid Casnewydd

NYA Web Image Welsh

Cyflawnwch eich uchelgais gyrfa gan ennill cymwysterau proffesiynol a chael hyd at £60 yr wythnos.

Mae Academi Ieuenctid Casnewydd yn ddarpariaeth ysbrydoledig sy'n newid bywydau pobl ifanc Casnewydd rhwng 16 a 19 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

Mae'r academi yn un o ddarparwyr hyfforddiant mwyaf Casnewydd gyda dros chwe blynedd o brofiad yn darparu hyfforddiant i bobl ifanc ac yn eu cefnogi i gyflogaeth ac addysg uwch/addysg bellach.

Ymunwch ag Academi Ieuenctid Casnewydd i ennill hyd at £60 yr wythnos, a chael cerdyn disgownt i fyfyrwyr.

Mae'r tîm yn teimlo’n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc drwy ddarparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu rhagorol. Drwy offer addysgol arloesol sy'n arwain y sector a rhaglenni cyflenwi cyffrous, mae’n darparu cyfleoedd i holl bobl ifanc y ddinas ynghyd â llwybr clir at gynnydd.

Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn ffordd wych o roi hwb i'ch hyder a chael blas ar waith y gallai fod gennych ddiddordeb ynddo.   Byddwch hefyd yn gallu manteisio ar hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi cyflogedig gyda chyflogwyr yn eich ardal. 

Mae'r rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a'i nod yw rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i gael swydd neu symud ymlaen i ddysgu pellach neu brentisiaethau.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, aeth 80% o'r myfyrwyr sydd wedi gadael yr academi ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth – y rhan fwyaf ohonynt yn gadael yr ysgol ac yn ymuno â ni heb unrhyw gymwysterau ffurfiol.

Gwyliwch ein ffilm am brofiad Liam gydag Academi Ieuenctid Casnewydd:

Mae Academi Ieuenctid Casnewydd yn cynnig llwybrau gyrfaoedd mewn:

  • Gwallt a Harddwch
  • Adeiladu
  • Busnes a Gweinyddu
  • Chwaraeon a Gwaith Ieuenctid
  • Peirianneg Modurol
  • Gofal
  • Gofal Anifeiliaid
  • Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Manwerthu
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • TG, STEM a Chodio

 

I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru:

cysylltwch neu tecstio â 07866 544272 

neu e-bostiwch [email protected] 

Lawrlwythwch Lawlyfr Dysgwyr Academi Ieuenctid Casnewydd (pdf)

ACT in partnership