Adfywio

Newport VVP - aerial April 2017

Mae gan Gasnewydd un o raglenni adfywio mwyaf arwyddocaol y DU, gyda buddsoddiadau’n trawsnewid lleoliadau a chreu cyfleoedd busnes newydd.

Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru

Ym mis Chwefror 2017 dechreuodd gwaith gwerth £100 miliwn ar Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Gwesty’r Celtic Manor, a fydd yn dod â budd economaidd o £70 miliwn a 100,000 o arosiadau ystafell wely i’r ardal bob blwyddyn.

Glan Llyn

I’r dwyrain o’r ddinas, mae buddsoddiad gwerth £1bn yn trawsnewid hen safle Gwaith Dur Llanwern, sy’n 600 erw o faint, i mewn i Lan Llyn, cymuned gynaliadwy drawiadol a fydd yn creu 4,000 o gartrefi newydd a 6,000 o swyddi newydd dros yr 20 mlynedd nesaf.

Friars Walk

Ar 12 Tachwedd 2015 agorodd cynllun manwerthu a hamdden Friars Walk, a ddarparwyd gan Queensberry Real Estate gyda benthyciad gan Gyngor Dinas Casnewydd, mewn ymdrech feiddgar sydd wedi bod yn gatalydd i fuddsoddiad pellach.

Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid

Cafodd Cyngor Dinas Casnewydd dros £17 miliwn gan Lywodraeth Cymru dan y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, sydd wedi gweld eiddo blaenllaw yng nghanol y ddinas yn cael eu trawsnewid yn llety a gofod masnachol. 

Cafodd St Paul’s Walk ei greu fel rhan o’r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.

Mae’r cynlluniau wedi creu tua 1,271 o swyddi, gan gynnwys cyfleoedd dysgu yn y gwaith a datblygu sgiliau, a chartrefi newydd a gwell yng nghanol y ddinas. 

Uwchgynllun Canol y Ddinas

Datgelwyd Uwchgynllun Canol y Ddinas (pdf) Casnewydd yn Uwchgynhadledd Dinas Casnewydd ar 18 Ionawr 2018.

Partneriaeth

Bydd partneriaethau sy’n canolbwyntio ar fuddsoddiad, fel Rhwydwaith Economaidd Casnewydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Dinasoedd Mawr y Gorllewin a Bargen Ddinesig Caerdydd, hefyd o fudd i’r economi.

TRA101662 3/5/2019