Pobl hŷn
Gwybodaeth i bobl hŷn sy'n byw yng Nghasnewydd
Lawrlwythwch gynllun drafft Heneiddio'n Dda yng Nghasnewydd 2016-18 (pdf)
Fforwm Pobl Hŷn Casnewydd
Mae'r Fforwm yn cynnig llais i bobl dros 50 oed yng Nghasnewydd ac mae aelodau'n gwirfoddoli i helpu i wella ansawdd bywyd pobl hŷn trwy ddylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio.
Mae aelodau'n gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd, sefydliadau iechyd, busnesau lleol a sefydliadau gwirfoddol.
Mae'r Fforwm yn bwyllgor o aelodau etholedig a gall unrhyw un ymuno am ddim.
Mae cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal ar ail ddydd Llun y mis ym misoedd Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref o 2 i 4pm yn Ystafell y Castell yng Nghanolfan Casnewydd - mae croeso i bawb; galwch heibio a dweud eich dweud!
Cysylltu
Cysylltwch â gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd i gael rhagor o wybodaeth.