Gall Cyngor Dinas Casnewydd a'n partneriaid gynnig cyfoeth o gyngor a chymorth – o gymorth gyda biliau, i gymorth i ddod o hyd i waith neu gael hyfforddiant. Os ydych yn cael trafferth yn ariannol, dysgwch fwy isod a chysylltwch â ni.
Pecyn cymorth costau byw
Darllenwch mwy ar ein tudalen pecyn cymorth costau byw
Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf
Mae ceisiadau wedi cau.
Banciau a pharseli bwyd
Mae'r cyngor yn cefnogi dosbarthu parseli bwyd ac mae nifer o fanciau bwyd yn y ddinas. Os oes angen i chi gael mynediad at y gwasanaethau hyn, ffoniwch ein hybiau cymdogaeth ar y rhif rhadffôn 0808 196 3482.
Cymorth ariannol hunanynysu Covid
Mae cynllun cymorth hunanynysu Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ar incwm isel, na allant weithio o gartref ac sy'n gorfod hunanynysu.
Dysgwch a allwch fanteisio arno, a gwneud cais ar-lein.
Cymorth pellach i grwpiau sy'n agored i niwed
Mae ystod o gymorth ar gael drwy ein hybiau ardal. Mae timau fel ein cysylltwyr cymunedol yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ar draws ardal Casnewydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.
Os nad ydych mewn grŵp agored i niwed, ond bod angen cymorth arnoch, ffoniwch ni ar (01633) 656656 a gallwn roi gwybod pa gymorth lleol sydd ar gael.
Cyngor ar reoli arian a dyledion
Mae sawl sefydliad partner a all eich helpu i reoli eich arian neu ddyled.
Mae Undebau Credyd yn gwmnïau cydweithredol arian dielw sy'n cynnig benthyciadau cystadleuol a lle diogel ar gyfer cynilion.
Dysgwch fwy am y gwasanaethau cymorth yng Nghasnewydd.
Y Dreth Gyngor
Os ydych yn ei chael hi'n anodd talu'ch treth gyngor, cysylltwch â ni. Gorau po gyntaf i chi wneud cais fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i'ch helpu drwy unrhyw anawsterau.
Efallai y byddwn yn gallu cynnig cynllun talu amgen, efallai y gallwch ohirio taliadau, neu os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol, efallai y gallwch wneud cais am ostyngiad y dreth gyngor.
Budd-daliadau - hawlio’r hyn sy’n perthyn i chi
Mae cyngor ar fudd-daliadau ar gael drwy Cyngor ar Bopeth.
Mae Gwefan Turn2us hefyd yn helpu pobl mewn angen ariannol i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a chymorth ariannol arall.
Gallwch hefyd ddefnyddio Entitledto i wirio pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD)
Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliad Tai yn ôl Disgresiwn.
Dim ond am gyfnod byr y dyfernir y taliadau hyn fel arfer.
Cronfa Cymorth Dewisol ar gyfer taliad arian brys
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau fath o grant nad oes angen i chi eu talu'n ôl:
Taliad Cymorth Brys (TCB) - Grant i helpu i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad os ydych yn profi caledi ariannol eithafol, wedi colli eich swydd, neu wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf.
Taliad Cymorth Unigol (TCU) - Grant i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano i fyw'n annibynnol yn eich/ei c/gartref neu eiddo rydych chi neu ef/hi yn symud iddo.
Gwnewch gais ar-lein neu ffoniwch 0800 859 5924.
Cymorth cyflogaeth a hyfforddiant
Mae'r timau yn ein hybiau cymdogaeth yn cynnig gwasanaeth cynghori yn y gymuned a all eich helpu i gael gwaith neu hyfforddiant. Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr lleol i gefnogi pobl i gael swyddi newydd.
Mae gwasanaethau eraill a ddarperir gan yr hybiau yn cynnwys cymorth i deuluoedd, llyfrgelloedd a dysgu oedolion.
Cyngor ar ddigartrefedd a thai
Os ydych yn ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu os oes angen cyngor ar dai arnoch, cysylltwch â ni.
Mae cymdeithasau tai Casnewydd hefyd yn cynnig cyfoeth o gyngor a chefnogaeth i denantiaid. Dyma'r cymdeithasau:
Cysylltwch â nhw'n uniongyrchol am gymorth.
Cyfleustodau
Cymru Gynhesach - gwasanaeth cynhwysfawr a diduedd am ddim sy'n helpu pobl i leihau eu biliau ynni. Ewch i'r wefan neu e-bostiwch warmer.wales@newportca.org.uk
Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau cyfleustodau, cysylltwch â'ch cyflenwr cyn gynted â phosibl fel y gallant roi gwybod pa gymorth sydd ar gael.
Dŵr Cymru - hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyngor gan gynnwys tariff HelpU sy'n helpu aelwydydd incwm isel drwy roi cap ar y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu am eich dŵr.