Project band eang cyflym iawn

Cynllun Talebau Band Eang Gigabid

Gall busnesau bach a’r cymunedau o’u cwmpas ddefnyddio’r talebau gigabid i gyfrannu tuag at y gost o osod cysylltiad band eang sy’n gallu delio â gigabid.

Mae busnesau a thrigolion yng Nghymru yn gymwys i gael arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau hyn. 

Mae band eang cyflymder a gwib-gyswllt yn rhan o broject ‘Superfast Britain’ i newid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio, ac mae Casnewydd ar flaen y gad yn y newid hwn. 

Manteision ar gyfer busnes

Gall band eang cyflym iawn fod o fudd i fusnesau o bob maint trwy ganiatáu iddynt weithredu'n fwy effeithlon, cyfathrebu'n well â chwsmeriaid, trosglwyddo data yn gyflymach - mewn gwirionedd, gwella pob agwedd ar y ffordd y maent yn gweithredu:

Sut allai eich busnes fanteisio ar hyn?

Darllenwch astudiaethau achos busnesau Casnewydd

Mae gan 54 o adeiladau cyhoeddus yng Nghasnewydd wifi rhad ac am ddim, a gyllidir gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i'r lleoliad a'r cyhoedd am dair blynedd.

Gelwir y rhwydwaith Wyf yn Gwmwl Cymuned Casnewydd a bydd y lleoliadau sydd â’r gwasanaeth yn arddangos logo y Cwmwl Cymuned.

Mae Wi-Fi rhad ac am ddim hefyd ar gael yng nghanol y ddinas ar rwydwaith o'r enw Newport City Connect.

Ynglŷn â’r project

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar broject Superfast Britain i wella argaeledd a defnyddio band eang cyflymder a gwib gyswllt yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Thorfaen.

Gall busnesau ddewis cyflenwr band eang o blith y rhai sy'n darparu gwasanaeth yn yr ardal hon.

Darllenwch fwy am Gyflymu Cymru i Fusnesau