Y cyngor

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn awdurdod unedol sy'n gyfrifol am weinyddu holl feysydd llywodraeth leol o fewn un haen ar gyfer ardal benodol.

Mae gan awdurdod un haen y pŵer i ddarparu holl wasanaethau llywodraeth leol.

Ffurfiwyd y cyngor fel bwrdeistref sirol ym 1996 a chafodd statws dinas yn 2002.

Dyma'r wythfed cyngor mwyaf yng Nghymru ac mae'n darparu'r holl brif wasanaethau fel addysg, hamdden, tai, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio a phriffyrdd.

Gweld lleoliad y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd

Yn dilyn yr etholiadau lleol ar 5 Mai 2022, mae 51 cynghorydd – 35 o’r blaid lafur, saith o’r blaid geidwadol, pedwar o’r blaid annibynnol, tri o blaid annibynnol Casnewydd, un o’r blaid Democratiaid Rhyddfrydol ac un o’r Blaid Werdd.

Caiff Maer Casnewydd ei ethol yn ôl hynafedd ac mae'n dal swydd am flwyddyn, tra bod Arweinydd y Cyngor yn cael ei ethol yn flynyddol gan grŵp mwyafrif aelodau'r cyngor.

Mae rôl yr Arweinydd yn cynnwys rôl Cadeirydd y Cabinet.

Mae'r rhestr hynafedd (pdf) yn dangos am ba hyd y mae aelodau wedi gwasanaethu'r cyngor.

Adroddiadau blynyddol Cynghorwyr 

Fel rhan o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Llywodraeth Cymru, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol roi'r cyfle i aelodau'r cyngor rannu eu gweithgareddau yn ystod blwyddyn ddiwethaf y cyngor.

Pan fydd aelod o'r cyngor wedi penderfynu gwneud hyn, caiff yr adroddiadau blynyddol hyn eu harddangos ar dudalen broffil y cynghorydd. 

Busnes y cyngor

Mae'r cyngor yn cyflogi tua 6454 o bobl (5120 ohonynt yn gyfwerth ag amser llawn) ac mae ganddo gyllideb refeniw flynyddol o oddeutu £300 miliwn.

Mae prif weithredwr a chyfarwyddwyr strategol y cyngor yn goruchwylio'r gwaith o gyflwyno gwasanaethau.

Mae'r adroddiad a'r cyfrifon blynyddol yn dangos y perfformiad ariannol ar gyfer yr holl weithgareddau a wneir gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Mae manylion ar gael am gyfarfodydd y cyngor sydd i ddod a pherfformiad, gan gynnwys y cynllun gwella, y cynllun corfforaethol ac amcanion llesiant.