Deddfwriaeth cyflymder diofyn 20mya newydd
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder 20mya safonol ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o Fedi 2023.
Mae’r rhain yn ffyrdd gyda goleuadau stryd heb fod yn fwy na 200 llath ar wahân, fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig.
Unwaith y daw'r gyfraith newydd i rym, bydd yr holl ffyrdd cyfyngedig yn cael eu newid o 30mya i 20mya. Mae hyn yn golygu na chewch deithio’n gyflymach na 20mya ar y ffyrdd hyn yn ôl y gyfraith.
Bydd rhai ffyrdd yn parhau â therfyn cyflymder o 30mya. Bydd gan y rhain arwyddion fel sydd gan ffyrdd â therfynau cyflymder uwch ar hyn o bryd.
Bydd unrhyw arwyddion cyflymder sydd ar waith ar hyn o bryd sy'n nodi terfyn o 20mya yn cael eu tynnu. Ni fydd unrhyw arwyddion ar waith i'ch atgoffa o'r terfyn cyflymder lle mae'n safonol. Mae hyn yr un fath ag ydyw ar hyn o bryd o fewn terfynau 30mya.
Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at gyflwyno'r cyflymder safonol newydd o 20mya ym mis Medi 2023. Bydd gwaith yn cael ei wneud ar draws Casnewydd rhwng nawr a'r dyddiad hwn i baratoi ar gyfer y newid.
Mae hyn yn cynnwys tynnu'r marciau crwn 20mya a 30mya o'r ffordd yn y cyfnod cyn y dyddiad gweithredu.
Mae’r marciau hyn er gwybodaeth yn unig ac nid ydynt yn ofynnol ar gyfer gorfodi terfynau cyflymder, felly gellir eu tynnu cyn cyflwyno’r terfynau.

(enghraifft o farciau crwn 20mya)
Bydd y terfynau 20mya presennol mewn ardaloedd preswyl ledled y ddinas yn parhau hyd nes y daw'r terfyn safonol newydd i rym. Ar yr adeg hon bydd yr holl arwyddion 20mya yn cael eu tynnu.
Ni fyddwn yn cyflwyno unrhyw derfynau cyflymder 20mya newydd hyd nes y daw'r ddeddfwriaeth hon i rym.
Mae llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai lleihau'r terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig arwain at lawer o fanteision. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Helpu i wella ein hiechyd a’n lles
- Gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
- Diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
- Lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd; a
- Mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni defnyddiol isod:
https://llyw.cymru/cyflwyno-terfynau-cyflymder-20mya
https://llyw.cymru/cynnig-i-ostwng-y-terfyn-cyflymder-ar-strydoedd-preswyl-i-20mya
Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 (DRAFFT)
Taflen 20mya Llywodraeth Cymru - Gorffennaf 2022