Diogelwch ar y Ffyrdd

Ardaloedd terfyn cyflymder 20mya  

Yng Nghasnewydd, cyflwynir ardaloedd terfyn cyflymder 20mya ar y cyd â mesurau arafu traffig  ffisegol. 

Byddwn ond yn ystyried cyflwyno ardaloedd terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd lle bydd hynny’n gwella diogelwch a helpu i leihau anafiadau a damweiniau yn deillio o gyflymder traffig uchel.

Darllen mwy a gwneud cais am fesurau arafu traffig 

Camerâu Diogelwch

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn aelod o Bartneriaeth Gan Bwyll / Partneriaeth Lleihau Damweiniau Ffyrdd Cymru, sy’n ceisio lleihau nifer y damweiniau ar ffyrdd Cymru.   

Mae’r bartneriaeth yn gyfrifol am orfodi goleuadau coch a chamerâu cyflymder ac yn annog pobl i yrru’n ddiogel ac yn gyfreithiol drwy gyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder ac ymgyrchoedd.

Rydym wedi gosod arwyddion a ysgogir gan gerbydau mewn nifer o safleoedd camerâu diogelwch i atgoffa gyrwyr am eu cyflymdra a’u helpu i gydymffurfio â’r terfyn cyflymder. 

Ymgyrch Snap

Os oes gennych chi fideo neu ffilm camera dashfwrdd o rywun yn gyrru wrth ddefnyddio ffôn, gyrru drwy olau coch neu yrru'n beryglus, rhowch wybod amdano ar Ymgyrch Snap a helpu i wneud ein ffyrdd yn ddiogelach i bawb. 

Swyddogion Croesfannau Ysgol 

Y rhieni bob amser sy’n gyfrifol am sicrhau bod eu plant yn teithio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol yn ddiogel.

Mae’n bosib y caiff swyddogion croesfannau ysgol eu rhoi ar waith i helpu plant ysgolion cynradd pan fo traffig yn ei gwneud yn anodd croesi’r ffordd.  

Cyn gwneud hynny byddwn yn ystyried p'un ai a yw meini prawf cenedlaethol diogelwch y ffyrdd yn cael eu bodloni ai peidio, gan roi ystyriaeth i symudiadau cerddwyr a cherbydau. 

Gwneud cais am groesfan ysgol

Croesfannau i Gerddwyr 

Pan fydd cais yn dod i law am groesfan i gerddwyr rydym yn ystyried:

  • nifer y bylchau addas yn llif y traffig 
  • nifer y bobl a all fod yn awyddus i groesi'r ffordd yn y lleoliad dan sylw
  • p’un ai a yw’n bosibl adeiladu croesfan 

Gan fod mwy o geisiadau am groesfannau’n dod i law na’r cyllid sydd ar gael i’w hadeiladu, rhoddir blaenoriaeth i leoliadau lle mae cerddwyr wedi cael eu hanafu. 

Gwneud cais am groesfan i gerddwyr 

Cysylltwch â ni isod i roi gwybod am unrhyw ddiffygion mewn cysylltiad â chroesfannau presennol.   

Cysylltu 

Anfonwch e-bost i [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd.