Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cyflwyno newidiadau i'r ffordd y mae'n casglu gwastraff cartref.
Bydd biniau sbwriel cartref a biniau gwastraff gardd yn cael eu casglu unwaith bob tair wythnos. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn cael eu casglu unwaith bob pythefnos.
Daw'r newid i helpu'r cyngor i gyrraedd eu targedau ailgylchu. Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn ailgylchu tua 67 y cant o'r gwastraff y mae'n ei gasglu. Er mwyn cyrraedd targedau llywodraeth Cymru, mae angen i hynny gynyddu i 70 y cant erbyn 2024/25.
Bydd methu â chyrraedd y targed hwn yn golygu bod y cyngor yn atebol am ddirwyon. Ar y raddfa ailgylchu bresennol, byddai'r ddirwy o fis Ebrill 2025 dros £500,000 y flwyddyn.
Bydd pob gwasanaeth gwastraff arall yn aros yn ei hunfan. Mae hyn yn golygu y bydd ailgylchu a gwastraff bwyd yn parhau i gael eu casglu'n wythnosol, ac fe fydd bagiau hylendid yn cael eu casglu bob pythefnos.
Bydd newidiadau bach yn cael eu gwneud i gynwysyddion ailgylchu fydd yn helpu trigolion i ailgylchu mwy o'u gwastraff, gan gynnwys:
- Bagiau glas newydd ar gyfer papur a chardfwrdd. Bydd hyn yn fwy na'r bocs glas presennol, a bydd y bag yn cymryd ei le, gan roi mwy o gapasiti ailgylchu i drigolion.
- Bydd gwydr ac eitemau trydanol yn cael eu casglu yn y bocs gwyrdd.
- Gofynnir i drigolion fagio tecstilau ar wahân.
- Bydd trigolion hefyd yn gallu archebu mwy o gynwysyddion ailgylchu os oes angen.
Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno cyn symud i gasgliadau fesul tair wythnos.
Bydd cam cyntaf o'r cylch casglu newydd yn cael ei gynnal yn y gwanwyn 2023. Bwriad hyn yw rhoi'r wybodaeth orau bosibl i ni am sut mae'r trefniadau newydd yn gweithio, cyn eu cyflwyno'n llawn yn yr hydref.
Bydd y cam cyntaf yn cael ei gynnal mewn tua 12,100 o aelwydydd. Mae cymysgedd o strydoedd a chymysgedd o aelwydydd wedi eu dewis o bob rhan o'r ddinas.
Bydd trigolion y mae eu strydoedd wedi eu dewis ar gyfer y cam cyntaf yn cael eu hysbysu'n uniongyrchol ynglŷn â phryd y bydd y newidiadau'n digwydd, a beth i'w ddisgwyl.
Yna bydd pob un o drigolion eraill Casnewydd yn derbyn gwybodaeth am y newidiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cyn iddyn nhw ddod i rym.
Bydd y cyngor hefyd yn sicrhau bod adnoddau a chymorth ar gael i unrhyw un sydd angen cymorth gyda'r newidiadau.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y cyngor a chaiff ei rhannu drwy sianeli cyfathrebu'r cyngor yn y cyfnod cyn cyflwyno'r newidiadau yn ddiweddarach yn 2023.