Os oes busnes gennych, mae dyletswydd gofal arnoch dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (Adran 34) i storio, trosglwyddo a gwaredu’r gwastraff a gynhyrchir gennych mewn modd diogel.
Gweld Gwastraff a’ch Dyletswydd Gofal (yn agor pdf) am ragor o wybodaeth.
Prisiau Gwastraff Masnach
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi adolygu ei brisiau Gwastraff Masnachol (pdf) ar gyfer 2023-24.
Bydd y prisiau newydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2022.
Busnesau â’r gyfraith
Un o’r rhwymedigaethau arnoch fel cynhyrchydd gwastraff yw cael contract gwastraff masnach gyda chludydd gwastraff cofrestredig – gallai methu â gwneud hynny arwain at gymryd camau gorfodi yn eich erbyn.
Mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i sicrhau yr aiff eich gwastraff i safle sy’n drwyddedig i’w dderbyn
Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y sawl sy’n cludo eich gwastraff yn gofrestredig.
Heblaw am Gynghorau, sydd wedi’u heithrio, mae cludwyr gwastraff yn cario tystysgrif gofrestru gan Asiantaeth yr Amgylchedd, a dylech gadw copi ohoni.
Heblaw am Gynghorau, sydd wedi’u heithrio, mae cludwyr gwastraff yn cario tystysgrif gofrestru gan Asiantaeth yr Amgylchedd, a dylech gadw copi ohoni. Bydd hefyd angen i chi drosglwyddo eich gwastraff i safle trwyddedig drwy gludydd gan ddefnyddio Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff, sef dogfennaeth y mae’n rhaid i chi ei chwblhau ac a gaiff ei chludo gyda’r gwastraff.
Gyda chasgliad rheolaidd, efallai mai dim ond unwaith y flwyddyn y bydd angen i chi wneud hyn. Gall eich cludydd roi cyngor a help i chi.
Mae hefyd angen i chi sicrhau bod y lle rydych yn anfon eich gwastraff iddo wedi’i drwyddedu gan Asiantaeth yr Amgylchedd i’w dderbyn. Dylai’r cludydd allu rhoi copi o’r drwydded i chi.
Sicrhewch eich bod yn gweld atodlen y drwydded sy’n nodi pa fath o wastraff y mae’r safle wedi’i drwyddedu i’w dderbyn: Mae dyletswydd gyfreithiol benodol arnoch i sicrhau yr aiff eich gwastraff i safle sy’n drwyddedig i’w dderbyn.
Cysylltu
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd i gael rhagor o fanylion.