Sesiynau croeso cynnes

Mae sesiynau croeso cynnes yn cael eu cynnal mewn adeiladau cymunedol o ddydd Llun 19 Rhagfyr i helpu trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw. 

Lleoliadau Cyngor

Yn ogystal â chynnig lle cynnes i drigolion a chyfle i gwrdd â phobl eraill, gallant hefyd gael cyngor ac arweiniad gan weithwyr cymunedol ac arbenigwyr o sefydliadau eraill i roi cymorth ar gostau byw.

Bydd diodydd poeth, Wi-Fi ac offer TG ar gael am ddim hefyd, yn ogystal â llyfrau llyfrgell ac adnoddau digidol.

Dyddiau ac amserau:

Dydd Mawrth, Iau a Gwener 9am-5pm

Canolfan Mileniwm Pill, Courtybella Terrace

Dydd Llun 9am-5pm

Canolfan Gymunedol Ringland, Ringland Circle

Canolfan Gymunedol Maesglas

Dydd Mercher 9am-5pm

Canolfan Gymunedol Gaer, Gaer Road

Canolfan Gymunedol Betws, Canolfan Siopa Betws

Dydd Iau 9am-5pm

Canolfan Hope Somerton RASCAL, Poplar Road

Dydd Gwener 9am-5pm

Canolfan Gymunedol Alway, Aberthaw Avenue

Yn ogystal, bydd holl lyfrgelloedd y cyngor yn parhau i gynnig lloches i breswylwyr yn ystod eu horiau agor.  Mae gan bob safle Wi-Fi am ddim a mynediad i offer TG, llyfrau llyfrgell a chyngor ar y cymorth sydd ar gael o ran delio â chostau cynyddol.

Bydd llyfrgelloedd mwy yn cynnal digwyddiadau eraill hefyd, fel gemau bwrdd, dyfeisiau tabled, grwpiau rhannu stori a grwpiau darllen.

I gael rhagor o wybodaeth am y llyfrgelloedd, gan gynnwys amseroedd agor, ewch i ein tudalen wefan llyfrgell. 

Gall sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am grant i helpu i ddarparu eu gofod cynnes eu hunain ymweld â https://www.gavo.org.uk/post/warm-spaces-grants-for-newport

Lleoliadau Eraill

Sefydliad y Santes Fair, Stow Hill (trefnir gan yr Holl Saint).  Lluniaeth am ddim a CCB hefyd yn cefnogi – Dydd Llun 10.30am i 3.30pm

Llyfrgell Maendy – Dydd Llun 2.30pm-5pm; Dydd Mercher 10am-5pm; Dydd Gwener 2.30pm-4.30pm; Dydd Sadwrn 10am-12pm

Eglwys St Andrew, Somerton Road, Llyswyry – Dydd Llun 9.30am-12.30pm a Dydd Iau 10.30am-1.30pm. Paned o rywbeth poeth neu le i gysgodi rhag yr oerfel

Eglwys y Bedyddwyr Llyswyry, Camperdown Road – Dydd Llun a Dydd Gwener 12pm-3pm. Lluniaeth am ddim ar gael

Eglwys y Santes Fair, Malpas – dydd Llun cyntaf o bob mis 10.30am-12.30pm. Caffi sy’n Deall Dementia Te, coffi a chacennau am ddim ynghyd â jig-sos a chaneuon

Canolfan Gymunedol Malpas – Dydd Mawrth, bob pythefnos, 1pm-3pm. Croeso i bawb. Rhywle cynnes i gyfarfod pobl eraill, cael paned a sgwrs gyfeillgar. WiFi am ddim, lluniaeth a gweithgareddau a gemau.Ffoniwch 07548627167, neu edrychwch ar y dudalen Facebook.

Capel y Bedyddwyr Bethesda, Cefn Road, Tŷ-du – Dydd Gwener 11.30am-2.30pm. Diodydd poeth, cawl a brechdan wedi'u tostio am ddim, Wi-Fi, toiledau hygyrch, cyfleusterau gwefru. Addas i blant.

Tafarn y Dodger, Chepstow Road – Dydd Mawrth a Dydd Mercher 12pm-3pm. Te a choffi.

Canolfan Gymunedol Parc Stow, Brynhyfryd Road - Dydd Mawrth i Ddydd Iau, 10am-3pm. Caffi’n cael ei ddefnyddio fel lle cynnes i bobl ddod i gael sgwrs a phaned.

YN DECHRAU IONAWR 2023 Rhwydwaith Cymunedol y Gaer, Canolfan Gymunedol y Gaer – Dydd Iau, 11am-12.15pm. Cerddoriaeth, atgofion a sgwrsio bob Dydd Iau - wedi'i anelu at bobl dros 50 oed. Te/coffi a thost am ddim.

Eglwys Gymunedol Bethel, The Gap Centre, Stow Hill – Dydd Gwener, 1.30pm-5pm. Am Ddim - Cynnes - Croesawgar - Diogel.  Te/coffi a rhai gweithgareddau anffurfiol (gemau bwrdd).

Eglwys Bresbyteraidd Beechwood, Chepstow Road – Dydd Gwener, 10am-12pm. Lluniaeth am ddim ar gael.