Tipio Anghyfreithlon a Sbwriel
Bydd y Cyngor yn clirio tipio anghyfreithlon o dir cyhoeddus, cyfrifoldeb perchenogion tir yw ei glirio os ydyw ar dir preifat.
Os gwelwch dipio anghyfreithlon defnyddiwch y ffurflen isod i ddweud wrthym, mae angen i ni wybod:
- Ble mae’r tipio anghyfreithlon
- Beth sydd wedi cael ei dipio a faint ohono sydd
- a welsoch chi hynny'n digwydd a manylion am y person neu'r cerbyd os oes gennych
Gallai unrhyw un a geir yn tipio'n anghyfreithlon wynebu dirwy o £50,000 a hyd at 12 mis yn y carchar.
Yn dilyn collfarn, mae'r ddirwy yn ddiderfyn yn Llys y Goron ac uchafswm cyfnod y carchar yw pum mlynedd.
Cynllun Tagio Teiars
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), nod y cynllun tagio teiars yw helpu i leihau tipio anghyfreithlon yng Nghasnewydd.
Gofynnir i garejys sy'n ymuno â'r cynllun nodi eu teiars gyda chod cyfeirio unigryw fel y gellir eu holrhain yn ôl i'r cwmni/unigolyn a'u casglodd, os caiff y teiars hyn eu gwaredu’n anghyfreithlon.
Mae gan bob busnes ddyletswydd i sicrhau nad yw eu gwastraff yn y dwylo anghywir. Er mwyn osgoi hyn, dylai perchnogion busnes:
- Gofyn a yw eu contractwr wedi'i gofrestru i gario gwastraff.
- Gofyn i ble bydd y teiars yn cael eu cymryd. Dylai hyn fod ar safle sy'n dal trwydded gwastraff.
Gwiriwch safleoedd a ganiateirar wefan CNC.
- Gofynnwch am nodyn trosglwyddo, bydd hyn yn dweud ble mae'r gwastraff wedi mynd. Dylid cadw copïau o'r nodyn hwn am ddwy flynedd.
Diogelu eich hun
Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar bob aelwyd yng Nghasnewydd i waredu ei gwastraff yn briodol.
Os bydd rhywun yn casglu eich gwastraff ac yn ei dipio’n anghyfreithlon, gallech chi gael eich dal yn gyfrifol am hynny a wynebu dirwy.
Cofiwch
-
Dylech bob amser ofyn i weld tystysgrif cludydd gwastraff, a pheidiwch â defnyddio contractwyr gwastraff sy’n gwrthod dangos tystysgrif wreiddiol i chi
-
Dylech gadw cofnod o fanylion y cludydd gwastraff rhag ofn ei fod yn tipio eich gwastraff yn anghyfreithlon a bod y gwastraff yn cael ei olrhain yn ôl i chi
-
Rhaid i fusnesau bob amser gael copi o nodyn trosglwyddo gwastraff gan y person sy’n cludo’r gwastraff i ffwrdd.