Mae cynllun cymorth hunanynysu Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ar incwm isel, na allant weithio o gartref ac sy'n rhaid iddynt hunanynysu. Mae hefyd ar gyfer rhieni a gofalwyr hefo plant sydd yn hunanynysu.
Rhaid ichi fod mewn gwaith (yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig) i gael y taliad ac mae gofyn ichi hawlio o fewn 21 diwrnod i ddiwrnod diwethaf eich cyfnod hunanynysu.
Ni ddylent effeithio ar eich budd-daliadau.
Pwy sy’n gymwys
Mae’r Cynllun Cymorth Taliadau Hunanynysu Covid 19 wedi gorffen ar 30 Mehefin.
Os rydych wedi cael canlyniad positif ac wedi gorfod hunanynysu ar neu cyn 30 Mehefin a rydych yn gymwys am gymorth, mae gennych 21 diwrnod i gyflwyno eich cais ar ôl eich diwrnod diwethaf o hunanynysu
Mae'n rhaid i chi gael un o'r canlynol:
- wedi adrodd prawf llif unffordd positif (LFT) o fewn 24 awr o gael y canlyniad
- wedi cael canlyniad prawf PCR positif
- wedi cael cyngor gan Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru (TTP) i hunanynysu
Os ydych yn cael gwybod bod angen i chi hunanynysu drwy ap COVID-19 y GIG, ni fyddwch yn gymwys heblaw fod TTP yn dweud bod angen i chi hunanynysu.
Cyn y cyfnod hunanynysu mae rhaid eich bod:
- yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig
- methu gweithio o gartref ac yn colli incwm o ganlyniad i’r hunanynysu
- yn hawlio un o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
- Credyd Pensiwn ag/neu
Os nad ydych yn derbyn un o'r budd-daliadau, efallai byddwch yn gymwys os oes dyfarniad wedi ei wneud eich bod yn gwynebu caledi ariannol o ganlyniad i’r golled yn eich cyflog tra yn hunanynysu. Esiampl o ble gall taliad ei wneud yw lle mae unigolyn ac incwm net o lai na £500 yr wythnos.
Os gofynnwyd i’ch plentyn hunanynysu
Gall rhiant neu warcheidwad wneud cais am daliad os gofynnwyd yn ffurfiol i’ch plentyn hynanynysu. Ni allwch gael y taliad os yw ap COVID y GIG wedi gofyn i’ch plentyn hunanynysu.
I gael y taliad mae’n rhaid bod eich plentyn yn mynychu'r ysgol, addysg bellach neu ofal plant (hyd at a gan gynnwys Blwyddyn 11, neu hyd at 25 oed os oes ganddo anghenion cymhleth) a’i fod wedi cael cais ffurfiol i hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.
Gwneud cais am y cynllun cymorth hunanynysu
Mae ceisiadau bellach wedi cau.
Cynllun cymorth hunanynysu Covid-19: hysbysiad preifatrwydd
Am wybodaeth bellach cysylltwch SelfIsolationPayments@newport.gov.uk.
Bydd unrhyw daliad a gewch o dan y cynllun hwn yn drethadwy ond caiff ei ddiystyru at ddibenion budd-daliadau.