Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Coronavirus COVID-19: Oriau gweithredu gwasanaeth y Warden Diogelwch Cymunedol yw 11am i 10pm, o ddydd Llun i ddydd Sul. Cysylltwch (01633) 656656.
Neu ffoniwch:
-
Rhwng 8am a 6pm, ffoniwch (01633) 656 656 a gofyn am y wardeniaid diogelwch cymunedol
-
Ar ôl 6pm, ffoniwch (01633) 656 667
- Os ydych chi eisoes mewn cysylltiad ag iechyd yr amgylchedd a gofynnwyd i chi ffonio pan fydd y sŵn yn digwydd, cysylltwch â'ch swyddog achos ar ei linell uniongyrchol
I gysylltu â Heddlu Gwent, ffoniwch 101 neu ffoniwch 999 mewn argyfwng.
Wardeniaid diogelwch cymunedol
Mae wardeniaid diogelwch cymunedol Casnewydd wedi'u hachredu gan Heddlu Gwent ac mae ganddynt bwerau o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
Gall wardeniaid ddelio ag adroddiadau am niwsans sŵn, sbwriel, baw cŵn, graffiti, tipio anghyfreithlon ac ysmygu mewn mannau cyhoeddus, a gallant gymryd alcohol a sigaréts oddi ar bobl os bydd angen.
Mae wardeniaid yn gweithio'n agos gyda thîm iechyd yr amgylchedd y cyngor i ddelio â niwsans sŵn.
Darllenwch am sut rydym ni'n delio â chwynion am sŵn
Oriau gweithredu gwasanaeth y Warden Diogelwch Cymunedol yw 11am i 10pm, o ddydd Llun i ddydd Sul.
Cysylltwch â'r wardeniaid diogelwch cymunedol am ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans sŵn drwy gydol y flwyddyn - nid oes gwasanaeth ar Ddydd Nadolig, Dydd Gŵyl San Steffan na Dydd Calan.
Cymorth i ddioddefwyr
Bydd y swyddog cymorth dioddefwyr yn asesu anghenion y dioddefwr ac yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol, gan weithio gyda wardeniaid diogelwch cymunedol a'r heddlu i sicrhau bod dioddefwyr yn cael cymorth.
Cysylltwch â Chymorth i Ddioddefwyr Cymru neu ffoniwch 0845 612 1900 i gael rhagor o gymorth.
Cysylltu
Cysylltwch â'r swyddog diogelwch cymunedol yng Nghyngor Dinas Casnewydd