Rhandiroedd
Os ydych chi'n byw yng Nghasnewydd, gallwch wneud cais am randir trwy gysylltu ag ysgrifennydd y safle i ofyn a oes rhandir ar gael.
Heblaw ar gyfer safleoedd sy'n eu rheoli eu hunain, Cyngor Dinas Casnewydd sy'n delio â phrisiau, y gallu i gael gostyngiad, biliau, canslo tenantiaethau ac atgyweiriadau.
Gallai gostyngiadau gael eu cynnig i'r henoed a phobl â bathodyn anabledd.
Mae arolygon safle wedi ail-ddechrau a chaiff hysbysiadau eu hanfon i denantiaid nad ydynt yn cynnal eu llain i safon resymol.
Lawrlwytho'r Llawlyfr Rhandiroedd (pdf)
Ffioedd a Thaliadau 2023/24
Rhenti Rhandiroedd (tâl gweinyddol fesul llain) - £36
Ffi Perc Rhandir (gall lleiniau gynnwys sawl perc - mae pob perc tua 25m2) - £4.07 fesul perc
Cysylltiadau ar gyfer rhandiroedd
Cysylltwch
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm Gwasanaethau Stryd.