Gwent Coroner Service

Gwasanaeth Crwner Gwent, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR 

Ffôn: 01633 656656 

E-bost: [email protected]

Mae Gwasanaeth Crwner Gwent yn cynrychioli'r awdurdodau lleol canlynol: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen


Mae crwner yn fath arbennig o farnwr a benodir gan awdurdod lleol i ymchwilio i farwolaethau penodol.

Mae crwneriaid yn gweithio o fewn fframwaith cyfreithiol a basiwyd gan y Senedd ac fe'u penodir gan awdurdod lleol, ond maent yn parhau i fod yn ddeiliaid swyddi barnwrol annibynnol.

Mae crwneriaid yn ymchwilio i farwolaethau a adroddir iddynt:

  • os ydynt yn credu bod achos y farwolaeth yn anhysbys neu heb ei gadarnhau 
  • os ydynt yn credu bod y farwolaeth yn dreisgar neu’n annaturiol
  • os nad yw achos y farwolaeth yn hysbys, neu
  • lle mae’r person wedi marw yn y carchar, yng nghaethiwed yr heddlu neu mewn math arall o ganolfan gadw’r wladwriaeth

Pan fydd crwner yn cael gwybod am farwolaeth, mae'n penderfynu a oes angen ymchwiliad ac, os oes, mae'n ymchwilio i bennu:

  • pwy yw’r person sydd wedi marw
  • sut, pryd, a lle y buon nhw farw
  • unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arno i gofrestru'r farwolaeth
  • unrhyw wybodaeth a ddarganfuwyd yn ystod yr ymchwiliad a allai helpu i atal marwolaethau eraill

 Cofrestru trysor posibl

Yng Nghymru, rhaid i berson sy'n dod o hyd i eitem a allai fod yn drysor (y darganfyddwr) gysylltu â'r Crwner a Chydlynydd Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru (Cydlynydd CHC) yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.  Dyma’r manylion:

Gwasanaeth Crwner Gwent: [email protected]

Cydlynydd CHC: [email protected]

 

Cyswllt

Gallwch nawr gysylltu â gwasanaeth y crwner ar gyfer ymholiadau cyffredinol, ceisiadau am recordiadau sain a cheisiadau am ddogfennau archif:

Gwnewch ymholiad i wasanaeth y crwner

Mwy o wybodaeth

Darllenwch y Canllaw Gov.UK i Wasanaethau Crwneriaid