Gwasanaeth treth gyngor ar-lein

01-Welsh

Gallwch bellach reoli eich cyfrif Treth Gyngor ar-lein. 

Boed yn  awyddus i fod yn fwy gwyrdd ac arbed papur, neu’n dymuno ffordd ychydig haws o reoli eich cyfrif, bydd ein gwasanaeth ar-lein yn eich galluogi i wneud hynny.

Drwy ein gwasanaeth ar-lein, gallwch:

  • Weld eich gwybodaeth treth gyngor
  • Sefydlu debyd uniongyrchol i dalu eich treth gyngor
  • Gweld pryd mae taliadau wedi'u gwneud, ac yn ddyledus
  • Trefnu i fynd yn ddi-bapur a derbyn e-filiau
  • Rhoi gwybod am newid cyfeiriad.

I gael mynediad at y gwasanaeth hwn, ewch i www.newport.mycouncilservices.com, yna mewngofnodwch neu cofrestrwch am gyfrif. Ar ôl mewngofnodi, cliciwch ar 'gweld fy nhreth gyngor' a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

COFRESTRWCH AR GYFER CYFRIF TRETH GYNGOR AR-LEIN

I gofrestru ar gyfer cyfrif, bydd angen i chi gael rhif eich cyfrif treth gyngor ac ateb cwestiwn diogelwch yn seiliedig ar wybodaeth am eich cyfrif. Gallwch weld rhif eich cyfrif ar eich bil diweddaraf.

Os nad oes gennych rif eich cyfrif treth cyngor, cysylltwch â'r tîm treth cyngor drwy e-bost yn [email protected]