Teithio llesol
Mae teithio llesol yn ymwneud â mynd o A i B drwy gerdded neu feicio. Mae'n golygu peidio â defnyddio’r car neu'r bws lle gallwch, i wneud y teithiau byr hynny naill ai ar eich beic, neu ar eich traed!
Ond mae hefyd yn ymwneud â chymaint mwy na hynny.
Pam mae’n bwysig?
Mae'n ymwneud â chysylltu pobl â'u cymunedau. Rydym am i bobl fod yn falch o’r lle y maent yn dod ohono, a theimlo'n ddiogel yn cerdded neu'n beicio o amgylch eu cymdogaethau lleol.
Mae hefyd yn ymwneud â gofalu am ein hamgylchedd. Bydd pob taith a wnewch naill ai ar droed neu ar feic yn lleihau ein hôl troed carbon, a fydd yn helpu i wella ansawdd aer y ddinas, ac yn diogelu'r amgylchedd a'r blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ac yn olaf mae'n ffordd hawdd o gynnwys ymarfer corff yn eich diwrnod, a fydd yn helpu i wella eich iechyd meddwl a chorfforol.
Beth yw ein rôl yn ei hyrwyddo?
Rydym am sicrhau bod opsiynau teithio llesol yn ddewis i drigolion Casnewydd.
I wneud hynny, rydym yn gweithio i ddatblygu llwybrau a chynlluniau teithio llesol newydd ledled y ddinas. Rydym hefyd yn gweithio'n galed i uwchraddio ein llwybrau presennol, a chysylltu â grwpiau a chymunedau lleol i hyrwyddo'r rhain gymaint â phosibl.
Dyma’n hastudiaethau achos i chi weld rhywfaint o'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud i wella opsiynau teithio llesol.
Mapiau teithio llesol
Rhaid i gynghorau yng Nghymru gynhyrchu mapiau teithio llesol i nodi llwybrau addas presennol ar gyfer cerddwyr a beicwyr ac awgrymu llwybrau posibl eraill a fyddai'n helpu i greu rhwydwaith integredig o lwybrau teithio llesol yng Nghasnewydd.
I weld ein mapiau.
Cyswllt
E-bostiwch y tîm teithio llesol yn City.Services@newport.gov.uk am ragor o wybodaeth.