Talu am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol

Unwaith y byddwch wedi cael eich asesu gan dîm gwasanaethau cymdeithasol y cyngor a'ch nodi'n gymwys i gael cymorth, bydd eu tîm cyllid yn cysylltu â chi a bydd gofyn i chi gwblhau asesiad ariannol.  Diben hyn yw penderfynu faint sydd angen i chi ei gyfrannu tuag at gost eich gofal.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyfarwyddo pob awdurdod lleol yng Nghymru ar sut y cyfrifir cyfraniad unigolyn tuag at eu costau gofal. Manylir ar hyn o fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae taliadau'n seiliedig ar eich gallu i dalu felly bydd y swm y mae'n rhaid i bob person ei dalu yn wahanol.

Lawrlwythwch ragor o wybodaeth am daliadau am wasanaethau drwy'r dolenni isod:

Os ydych eisoes wedi cael eich asesu fel un sy'n gymwys i gael gofal cymdeithasol, cwblhewch y ffurflen asesiad ariannol ar-lein.

Os cawsoch wybod bod angen i chi gwblhau asesiad trydydd parti, cwblhewch y ffurflen asesu trydydd parti os gwelwch yn dda.