Anghenion Dysgu Ychwanegol

Nursery-admission

Mae pob plentyn yn unigol ac maen nhw i gyd yn datblygu ac yn dysgu ar gyfraddau gwahanol.

Mae rhai plant yn gweld dysgu'n hawdd, ac mae rhai yn ei gweld hi'n anodd. Gyda'r cymorth cywir bydd pob plentyn yn datblygu ar ei gyflymder ei hunan.

Mae hyn yn golygu y bydd angen gwahanol arddulliau addysgu o fewn ystafell ddosbarth, gan ystyried galluoedd, cryfderau, gwendidau a diddordebau'r plant.

Bydd y dulliau gwahanol hyn o ddysgu yn helpu'r rhan fwyaf o blant i wneud cynnydd. Ond mae'n bosib y bydd angen mwy o gymorth ar rai.

Mae'r ffordd mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi yn cael ei drawsnewid. 

Dyma rai newidiadau allweddol o fewn y trawsnewidiad newydd:

  • Bydd y term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn disodli'r term Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).  
  • Gelwir Cydlynwyr Anghenion Addysg Arbennig (Cydlynwyr AAA) yn Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynwyr ADY).
  • Bydd Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar/Ysgol, Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar/Ysgol a Mwy yn diflannu a bydd pob plentyn sydd ag ADY cydnabyddedig, sydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) yn cael dogfen statudol newydd o'r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn y pen draw.
  • I'r rhai sydd ag ADY nad oes angen CDU arnynt, bydd Proffil Un Dudalen yn cael ei gyhoeddi. Nid yw hyn i'w gymysgu â chynlluniau addysg unigol (CAU) a fydd hefyd yn cael ei ddileu'n raddol. 
  • Yn wahanol i ddatganiadau, sy'n dod i ben pan fydd person ifanc yn gadael yr ysgol, bydd CDUau yn parhau hyd at 25 mlwydd oed os yw'r person ifanc yn symud i addysg bellach. 

Ar hyn o bryd bydd datganiadau AAA yn cael eu dileu'n raddol ai’u hamnewid gyda CDUau yn unol â llinell amser Llywodraeth Cymru.

Dan y system newydd, bydd cynllunio'n hyblyg ac yn ymatebol, bydd ein gweithwyr proffesiynol yn fedrus ac yn hyderus wrth nodi anghenion a defnyddio strategaethau i helpu dysgwyr i oresgyn eu rhwystrau i ddysgu, a bydd y dysgwr yng nghanol popeth a wnawn.

Bydd y system wedi'i thrawsnewid yn sicrhau’r canlynol: 

  • sicrhau bod pob dysgwr ag ADY yn cael ei gefnogi i oresgyn rhwystrau rhag dysgu a chyflawni ei lawn botensial
  • gwella'r gwaith o gynllunio a darparu cymorth i ddysgwyr o 0 i 25 oed gydag ADY, gan roi anghenion, safbwyntiau a dymuniadau dysgwyr wrth wraidd y broses. 
  • canolbwyntio ar bwysigrwydd nodi anghenion yn gynnar a rhoi ymyriadau amserol ac effeithiol ar waith sy'n cael eu monitro a'u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio trosolwg o'r system newydd ynghyd â Fideo YouTube yn egluro'r newidiadau. Gyda'i gilydd, byddant yn rhoi syniad da i chi sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bethau weithio.