Hysbysiadau cyhoeddus

Hysbysiadau cyhoeddus cyfredol

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) 2022

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) ar waith ar gyfer parciau a mannau agored.

Mae'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r holl Fannau Cyhoeddus yn Ninas a Sir Casnewydd a diben y gorchymyn fydd gorfodi perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 21 Tachwedd 2022 a bydd yn parhau mewn grym am 3 blynedd o’r dyddiad hwn, oni bai y caiff ei ymestyn gan orchmynion pellach a wneir dan bwerau statudol y Cyngor.

Gallwch lawrlwytho Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) 2022 (pdf)

Archwiliad o Gyfrifon

Lawrlwytho Archwiliad o Gyfrifon 2021/22 (pdf)