Browser does not support script.
Mae Uned Argyfyngau Sifil Posibl y cyngor yn cynnig gwasanaethau cymorth parhad busnes a chynllunio mewn argyfwng i Gyngor Dinas Casnewydd ac mae'n cynnal system swyddog ar ddyletswydd drwy gydol y flwyddyn i ymateb i sefyllfaoedd eithriadol.
Lawrlwythwch y Cynllun Corfforaethol Rheoli mewn Argyfwng (pdf)
Lawrlwythwch y Cynllun Tywydd Garw (pdf)
Lawrlwythwch Gynllun Argyfwng Oddi ar y Safle Solutia (pdf)
Cyngor gan y Swyddfa Dywydd ar gadw'n gynnes ac yn iach wrth deithio neu yn y cartref y gaeaf hwn.
Dysgwch a oes risg i chi ddioddef llifogydd a sut i baratoi o flaen llaw ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gall preswylwyr a busnesau gofrestru gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gael rhybuddion llifogydd am ddim.
Gwiriwch rybuddion llifogydd presennol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Lawrlwythwch y Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol (pdf)
Gweler hefyd y dudalen Cynnal a Chadw'r Ffyrdd – Llifogydd.
Mae'r Gofrestr Risgiau Cymunedol yn rhoi'r safiad y cytunwyd arno ynglŷn â'r risgiau sy'n debygol o effeithio ar ardal leol a'r cynllunio a'r adnoddau y mae eu hangen i baratoi ar gyfer y risgiau hynny.
Gallwch weld y Gofrestr Risg Gymunedol ar wefan Gwent Prepared.
Anfonwch e-bost civil.contingencies@newport.gov.uk neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am yr uned argyfyngau sifil posibl.