Casgliadau biniau a fethwyd
Dylid cyflwyno pob bin i’w gasglu erbyn 6am ar eich diwrnod casglu arferol, gan sicrhau bod caead y bin yn gallu cael ei gau.
Caiff casgliadau a fethwyd oherwydd nad oedd y bin wedi’i gyflwyno ar yr amser a’r diwrnod cywir eu casglu ar y diwrnod casglu arferol nesaf.
Rhowch wybod am gasgliadau biniau a fethwyd o fewn 24 awr, ond nid cyn 3pm ar eich diwrnod casglu oherwydd gallai'r criwiau casglu fod wrth eu gwaith o hyd.
Os yw stryd gyfan wedi’i methu, mae’n debygol bod y cerbyd casglu gwastraff wedi cael ei oedi. Mewn achosion o’r fath, dylid gadael y biniau allan gan y bydd y criw yn dychwelyd i’w casglu’n ddiweddarach.