Cyflwynodd Deddf Gamblo 2005 weithdrefnau a newidiodd sut y gweinyddir gweithgareddau gamblo yn y DU.
Cyngor Dinas Casnewydd yw’r awdurdod trwyddedu dan ddarpariaethau Deddf Gamblo 2005 ac mae’n gyfrifol am weinyddu a gorfodi trwyddedau safleoedd dan y Ddeddf.
Dan Ddeddf Gamblo 2005, mae’n rhaid i’r cyngor baratoi Datganiad o Bolisi Trwyddedu yn ysgrifenedig a dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Gamblo.
Mae’r Polisi Trwyddedu yn gosod sut y bydd y cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau trwyddedu gyda’r golwg i hyrwyddo'r tri amcan trwyddedu:
- atal gamblo rhag dod yn ffynhonnell trosedd neu anhrefn, bod yn gysylltiedig â throsedd neu anhrefn neu gael ei ddefnyddio i gynorthwyo trosedd
- sicrhau y cynhelir gamblo yn deg ac agored
- diogelu plant a phobl eraill sy’n agored i niwed rhag eu niweidio neu ecsbloetio gan gamblo
Mae’r ddeddf yn ei wneud yn ofynnol i’r cyngor baratoi polisi trwyddedu bob tair blynedd, lawrlwythwch a gweld Polisi Trwyddedu 2022 (pdf)
Peiriannau Hapchwarae
Gall Cyngor Dinas Casnewydd roi trwyddedau i reoleiddio peiriannau hapchwarae ar gyfer safleoedd sy’n darparu cyfleusterau gamblo lle nid gamblo yw prif swyddogaeth y safle.
Pwy all wneud cais?
Caiff safleoedd â thrwyddedau i ddefnyddio alcohol, sy’n cynnwys bar lle gweinir alcohol, ond heb ofyniad i weini alcohol gyda bwyd yn unig, wneud cais.
Pa hawliau y mae’r drwydded yn eu rhoi i mi?
Mae hawl awtomatig i ddau beiriant categori C neu D, yn amodol ar i chi:
- Ein hysbysu yn ysgrifenedig eich bod yn dymuno defnyddio’r hawl hwn
- Talu’r ffi a ragnodir sef £50
- Bod yn cydymffurfio ag unrhyw god ymarfer perthnasol a roddir gan y Comisiwn Gamblo.
Nid oes ffi flynyddol ond os caiff eich trwydded alcohol ei throsglwyddo i safle arall bydd angen hysbysiad ysgrifenedig newydd ynghyd â ffi arall o £50.
Nid oes ffi flynyddol os oes gennych hyd at ddau beiriant, am fwy na dau beiriant , y ffi flynyddol yw £50.
Gwneud Cais
Lawrlwythwch y Cais am drwydded Gamblo Clwb/Peiriant Clwb (pdf)
Dychwelwch y ffurflen wedi’i llenwi, ynghyd â’r ffi, i’r cyfeiriad a roddwyd ar y ffurflen.
Darllenwch am loterïau
Cyswllt
E-bostiwch environment.licensing@newport.gov.uk neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm trwyddedu.