Gofalwyr

Carer_female

Pwy sy'n ofalwr di-dâl?

Mae gofalwr di-dâl yn rhywun o unrhyw oedran sy'n rhoi cymorth di-dâl i deulu neu ffrindiau na allent ymdopi heb gymorth.

Ni ddylid drysu rhwng y term gofalwr di-dâl a gweithiwr gofal neu gynorthwy-ydd gofal, sy'n derbyn tâl am ofalu am rywun.

Fel gofalwr di-dâl, gallech fod yn gofalu am berthynas, partner neu ffrind sy’n sâl, yn fregus, yn anabl, â salwch iechyd meddwl neu broblemau camddefnyddio sylweddau.

Gall bod yn ofalwr fod yn foddhaol ond gall hefyd effeithio arnoch yn gorfforol ac yn emosiynol.  


Gwybodaeth wedi'i lawrlwytho am brofion llif ochrol ar gyfer gofalwyr di-dâl (pdf)

Lawrlwythwch wybodaeth am y digwyddiad Diwrnod Hawliau Gofalwyr (pdf)

Rydym yn gofalu am ein gofalwyr!

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd. Rydym yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi, eu clywed a'u cefnogi o fewn ein gwasanaethau.

Gweler ein hymrwymiad ar wefan Care Collective

Mae gennym hefyd Hyrwyddwr Gofalwyr a Hyrwyddwr Gofalwr Hŷn o fewn Gwasanaethau Oedolion:

Gweld ein hymrwymiad i hyrwyddwyr gofalwyr (pdf)

Gweld ein hymrwymiad i uwch hyrwyddwyr gofalwyr (pdf)

Lles i ofalwyr 

Gall gofalu am rywun fod yn werth chweil ond nid yw heb unrhyw her. Mae’n bwysig bod gofalwyr di-dâl yn gofalu am eu llesiant eu hunain yn ogystal â’r person y maent yn gofalu amdano.

Mae ein tudalen we Lles i Ofalwyr yn darparu gwybodaeth ar sut y gallwch ofalu am eich lles gartref, ar-lein neu yn y gymuned leol.

Lawrlwythwch fwletin gofalwyr Chewfror 2024 (pdf)

Gwybod eich hawliau

Mae gan ofalwyr di-dâl hawliau penodol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gan gynnwys:

  • yr hawl i wybodaeth, cyngor a chymorth
  • yr hawl i gael asesiad
  • yr hawl i les
  •  Yr hawl i leisio'ch barn ac i gael rheolaeth dros benderfyniadau am eich cefnogaeth
  • • Yr hawl i eiriolaeth

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i ddysgu mwy am hawliau gofalwyr di-dâl.

Asesu

Mae gennych hawl i gael gwybodaeth briodol i’ch cynorthwyo yn eich rôl gofalu, a gall hyn gynnwys asesiad gofalu.

Darllen am broses asesu gofalwyr Cyngor Dinas Casnewydd

Canllaw Gofalwyr Cymru i gael ffeithlen asesu (pdf)

Gofyn am asesiad gofalwr a / neu wybodaeth

Help a Chymorth

Cofrestrwch i'r Rhwydwaith Gofalwyr i dderbyn eFwletinau rheolaidd a’r newyddion diweddaraf i ofalwyr.
E-bostiwch [email protected]

Gall Cyngor Dinas Casnewydd gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl o bob oed:

Gofalwyr Ifanc (pdf) (8 - 15 oed)

Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr (pdf) (16 - 25 oed)

Oedolion sy'n Ofalwyr (pdf) (18+ oed)

Llawlyfr Gofalwyr Casnewydd (pdf): canllaw i wasanaethau sydd ar gael yng Nghasnewydd ac adnodd defnyddiol i ofalwyr.

Canllaw i Ofalwyr ar Gynllunio ar gyfer Argyfyngau (pdf): yn eich helpu i feddwl am flaengynllunio ar eich cyfer chi a'r person rydych yn gofalu amdano.

E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 235650 os hoffech i ni bostio copi o'r Llawlyfr Gofalwyr neu'r Canllaw i Ofalwyr ar Gynllunio ar gyfer Argyfyngau atoch. 

Cyfeirlyfr Gofalwyr Casnewydd (pdf): yn cynnwys manylion am grwpiau cymorth a gwasanaethau lleol.

Caffi gofalwyr - Ymunwch â'r Cysylltwyr Cymunedol am gyngor ac i sgwrsio gyda gofalwyr eraill.

Gwasanaeth Egwyl Byr Casnewydd: Cefnogaeth i ofalwyr a'r oedolyn y maent yn gofalu amdano, naill ai yn y gymuned neu mewn lleoliad cyfleuster yn Spring Gardens.

Nod y gwasanaeth hwn yw cefnogi gofalwyr di-dâl sy'n darparu gofal i oedolyn ag anghenion gofal cymwys yng Nghasnewydd, gan alluogi'r gofalwr i gymryd seibiant o'u rôl ofalu. Rydym hefyd yn darparu'r gwasanaeth hwn i unigolion sydd wedi cael eu hasesu ar gyfer y gwasanaeth trwy Asesiad Integredig a Chynllun Gofal a Chymorth.

Gofynnwch am asesiad gan ddefnyddio’r ffurflen uchod neu drwy ffonio’r tîm Cyswllt Cyntaf ar 01633 656656.

Trwydded barcio gofalwyrgall gofalwyr enwebedig wneud cais am drwydded barcio fel y gallant barcio'n ddiogel yng nghartref y person y maent yn gofalu amdano.

Teleofal, Technoleg Gynorthwyol a Larymau Gwddfmae amrywiaeth o dechnoleg ar gael i gynyddu annibyniaeth a rhoi tawelwch meddwl i ofalwyr di-dâl os yw'r person y maent yn gofalu amdano mewn perygl pan gaiff ei adael ar ei ben ei hun.

AskSARA: canllaw hunan-gymorth am ddim sy’n hawdd ei ddefnyddio ac sy’n rhoi cyngor arbenigol a gwybodaeth am gynnyrch ac offer ar gyfer oedolion hŷn neu anabl a phlant.

Cynllun Grantiau Bach: hwylusir y cynllun hwn gan Y Gydweithfa Gofal ar ran pum awdurdod lleol Gwent. Gall y grantiau hyn roi cymorth ariannol i ofalwyr o bob oed.

Canolfan Cyngor ar Bopeth Casnewydd: help i wneud cais am Lwfans Gofalwr neu wiriad budd-daliadau i’ch helpu i sicrhau’r incwm mwyaf posibl.

Eiriolaeth i ofalwyr di-dâl: help i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed 

Fforwm Cymru Gyfan: yn cynrychioli barn rhieni a gofalwyr di-dâl pobl ag anableddau dysgu ar lefel genedlaethol.

Grwpiau Cymorth i Ofalwyr yng Nghasnewydd: cymorth, cyfeillgarwch a gweithgareddau i ofalwyr di-dâl.

Ap Jointly: yn helpu i wneud gofalu'n llai o straen ac yn fwy trefnus drwy greu 'cylch cymorth' i rannu dyletswyddau gofalu. 

Lles: yfeirio cymorth ar gyfer eich lles


Gofalwyr ifanc 

Mae gofalwr ifanc yn berson dan 25 oed sy’n gofalu am neu’n helpu i ofalu am berthynas drwy wneud gwaith tŷ, siopa, coginio neu ofalu am frodyr a chwiorydd. 

Ewch i wefan Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Casnewydd neu wefan Gofalwyr Ifanc Gwent i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae ein partneriaid yn Barnardo's ar hyn o bryd yn cynnig grwpiau rhithwir, sgyrsiau fideo un-i-un a galwadau ffôn i roi cymorth. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Barnardo's ar [email protected]


Pan ddaw gofalu i ben

Mae yna wahanol resymau pam y gall eich rôl ofalu ddod i ben ac mae cefnogaeth ar gael.

Mae gan Carers UK wybodaeth ar gael, gan gynnwys llyfryn i gefnogi bywyd ar ôl gofalu. Llwythwch i lawr pan ddaw'r gofal i ben neu pan fydd yn newid (pdf).

Os hoffech drafod cyfleoedd newydd cysylltwch â'r Cysylltwyr Cymunedol.

Rhagor o Wybodaeth