GEMS
Mae Gwasnaeth Addysg Ethnig Lleiafrifol Gwent (GEMS) yn cefnogi disgyblion Casnewydd sydd â mamiaith heblaw Cymraeg neu Saesneg trwy weithio'n agos ag ysgolion a rhieni i helpu disgyblion i wella'u sgiliau Saesneg.
Mae GEMS yn darparu:
- cyngor, cymorth ac arweiniad ar gydraddoldeb hiliol i ysgolion a chyrff llywodraethu
- asesiadau dwyieithog i sefydlu gofynion am gymorth ieithyddol
- ymweliadau â'r cartref i sicrhau bod cyfathrebu da'n cael ei sefydlu rhwng rhieni a'r ysgol. Mae gwybodaeth hanfodol am yr ysgol yn cael ei throsglwyddo i rieni yn iaith y cartref a chaiff eu pryderon a'u cwestiynau eu trosglwyddo'n ôl i'r ysgol.
Gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
Gall GEMS helpu gyda chyfieithu a chyfieithu ar y pryd i brif ieithoedd cymunedol Casnewydd.
Gwneir pob math o gyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus am brisiau cystadleuol gan ddefnyddio tîm o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd wedi'u hachredu, sy'n gwbl gymwys ac sydd wedi cael gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dyma'r ieithoedd sydd ar gael: Arabeg, Tsieceg, Hwngareg, Eidaleg, Pwyleg, Portiwgaleg, Rwmaneg, Slofaceg, Sbaeneg.
Anfonwch e-bost at translate.interpret@newport.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at info@newport.gov.uk neu ffoniwch:
- (01633) 851502
- (01633) 851504
- (01633) 851505
Download and read the GEMS privacy notice (pdf)