Trwyddedu safle carafanau, cartref symudol a gwersylla

Mae safleoedd carafanau a gwersylla yng Nghasnewydd angen trwydded gan y cyngor i sicrhau bod y safle'n cael ei redeg mewn ffordd briodol a diogel.

Cyn gwneud cais am drwydded, mae angen i chi sicrhau bod gan eich safle ganiatâd cynllunio

Unwaith y cafwyd caniatâd cynllunio, rhaid i'r meddiannydd tir wneud cais am drwydded safle ar gyfer naill ai safle preswyl neu ddibreswyl.

Darllenwch am y gwahanol fathau o safleoedd carafán neu wersylla

Weithiau nid oes angen trwydded:

Eithriadau safle cartrefi symudol a charafánau

  • os yw gweithwyr fel rhai coedwigaeth neu weithwyr tymhorol yn aros ar y safle
  • os yw'r safle yn bum erw neu fwy a bod tair neu lai o garafanau yno am 28 diwrnod neu lai o flwyddyn
  • os ydych chi'n aelod o sefydliad a bod gennych dystysgrif eithrio carafanau, neu os yw eich safle'n cael ei gymeradwyo gan sefydliad sydd â thystysgrif eithrio carafanau

Gwnewch gais am drwydded eithrio parc carafanau

Eithriadau safleoedd gwersylla

  • os oes defnydd achlysurol o'r safle o fewn ffin tŷ annedd
  • os oes gan y safle gymeradwyaeth gan rai sefydliadau, e.e. clwb carafanau
  • os yw'n safle adeiladu neu beirianneg, neu'n cael ei ddefnyddio gan sioeau teithiol neu ei feddiannu gan yr awdurdod lleol

Gwnewch gais am drwydded safle gwersylla

Rhaid i barciau carafanau trwyddedig gydymffurfio ag amodau sy'n ymwneud â’r: 

  • math o garafán - preswyl, statig gwyliau, teithio, pabell
  • dwysedd y safle
  • gofod rhwng y lleiniau a’r nifer uchaf o leiniau
  • cyfleusterau megis toiledau, cawodydd, cyfleusterau golchi
  • dŵr yfed
  • trefniadau gwaredu gwastraff gan gynnwys gwaredu dŵr a chemegol
  • glanweithdra
  • gosodiadau diogelwch tân a gosodiadau trydanol
  • trefniadau parcio

Gweler yr amodau trwydded safle pebyll (pdf)

Ffioedd  

Ffioedd trwyddedu safle cartref symudol

 

 Trwydded safle - uchafswm o 2 lain     

    Dim tâl     

 Trwydded safle - bach (3-10 carafan)

    £869.48

Trwydded safle - canolig (11-49 carafán)

    £970.79

 Trwydded safle - safle mawr (50+ carafan)

    £1159.11

 Amrywio'r drwydded

      £78.99

 Amrywiad sydd angen arolygiad

    £204.92

 Ffi i adneuo rheolau safle

      £65.83

 Trwydded newydd

      £19.46

 Tâl hysbysiad cosb sefydlog

      £109.33

Ffioedd trwyddedu safleoedd gwersylla     

 

Trwydded safle gwersylla

    £869.48

 

Arolygiad

Os oes gennych drwydded, cewch ymweliad arolygu blynyddol gan swyddogion y cyngor a fydd yn archwilio tystysgrifau a chofnodion cynnal a chadw.

Yn ystod yr arolygiad, bydd nifer yr unedau, strwythurau, pellteroedd gwahanu, blociau toiled, mannau storio LPG a pharcio yn cael eu harchwilio. 

Dirwyon a chosbau

Efallai y cewch ddirwy o hyd at £2,500 os nad ydych â thrwydded, neu’n torri unrhyw un o'ch amodau trwydded.  

Gweler y safleoedd carafán trwyddedig yng Nghasnewydd

Cwynion

Dylid anfon cwynion am barc carafanau at [email protected], gallwch hefyd wneud cwyn ar-lein 

Rhagofalon tân

Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005; Mae'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (RRO) yn berthnasol i safleoedd carafanau a gwersylla.

Gorfodir yr RRO gan yr awdurdod tân ac achub lleol.

Gellir dynodi rhagofalon tân fel amodau trwydded o dan yr RRO yn dibynnu ar ba safle sydd gennych.

Am ragor o wybodaeth am y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Deddfwriaeth ategol