Ymgynghoriadau ar agor
Cymuned Werdd Gysylltiedig Iscoed
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cyflawni prosiect ardaloedd natur gymunedol yn Iscoed gyda’r bwriad i greu ardaloedd gall pobl a natur mwynhau.
Bydden ni wrth ein modd clywed eich barn ar y prosiect yma a bydden ni’n gwerthfawrogi os gallech gymryd pum munud i gwblhau ein harolwg.
Bydd eich adborth i’r cwestiynau canlynol yn helpu ffurfio’r dyfodol o’ch cymdogaeth.
Cwestiynau cyffredin (pdf)
Gwella teithio yng Nghanol Casnewydd
24 Chwefror 2023 - 6 Ebrill 2023
Rydym eisiau eich barn ar gynigion ar gyfer gwella opsiynau teithio yng nghanol y ddinas.
Mae'r cyngor a Thrafnidiaeth Cymru am wella'r profiad o deithio i orsaf reilffordd Casnewydd, glan yr afon a thrwy Old Green.
Y weledigaeth yw i orsaf reilffordd Casnewydd ddod yn ganolfan ar gyfer teithio cynaliadwy a'n nod yw gwneud y ddinas yn lle brafiwch i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef, tra'n helpu pobl i fod yn llai dibynnol ar geir.
Er mwyn helpu i wella diogelwch y cyhoedd, bydd y cynigion yn anelu at greu amgylchedd sy'n canolbwyntio’n fwy ar bobl drwy greu llwybrau teithio llesol symlach sy'n gyfleus ac yn ddeniadol i'r holl ddefnyddwyr.
http://haveyoursay.tfw.wales/gwelliannau-teithio-casnewydd-canolog
Ymgynghoriadau diweddar
Ymgynghoriad ar barciau a gwella chwarae Pillgwenlly.
Mae Tîm y Parciau yn anelu at wella ardaloedd chwarae yng Nghasnewydd. Mae'r prosiect wedi sicrhau cyllid i uwchraddio mannau chwarae i ddarparu mannau chwarae diogel a hwyliog i blant.
Bydd ein hymgynghoriad cyntaf yn canolbwyntio ar Ganolfan Mileniwm Pilgwenlly a Stryd Rhiw’r Perrai. Gallwch ymweld â'n hymgynghoriad personol Pillgwenlli Asda, dydd Iau 30 Mawrth 9am-4pm.
Cynllun datblygu lleol newydd - twf ac opsiynau gofodol
Ar gau - 8 Mawrth 2023
Mae'r ymgynghoriad twf ac opsiynau gofodol yn ystyried graddfa’r twf (tai a chyflogaeth) ac opsiynau eang ar gyfer lle y gellid lleoli'r twf hwnnw (opsiynau gofodol).
Bydd eich adborth yn helpu i fireinio'r twf a’r opsiynau gofodol er mwyn cynrychioli orau’r cymunedau sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chasnewydd.
Teledu camerau cylch pont Devon Place
Ar gau - 28 Chwefror 2023
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn gosod camerâu cylch cyfyng o amgylch pont newydd Devon Place.
Bydd y camerâu yn cael eu gosod yn y lleoliadau canlynol:
- Bydd dau (un trem-gogwydd-chwyddo ac un statig) yn cael eu rhoi ar wal yr hen Orsaf Wybodaeth ar Queensway
- Bydd dau (un trem-gogwydd-chwyddo ac un statig) yn cael eu rhoi ar golofn ger Dragon Taxis.
- Bydd tri (un trem-gogwydd-chwyddo a dau statig) yn cael eu rhoi ar ochr Devon Place y bont.
Bydd y camerâu yn cael eu defnyddio er diogelwch pobl sy'n defnyddio'r bont, gan weithredu fel rhwystr i ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol posib, a rydym yn awyddus i glywed eich barn ar yr effaith y gallai'r newid hwn ei chael.
Arolwg Tai i’r rhai dros 55 oed
Ar gau: 13 Chwefror 2023
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gofyn i drigolion dros 55 oed gwblhau arolwg byr, dienw i roi cipolwg ar eu sefyllfa tai.
Mae ymchwil yn cael ei wneud i ddatblygu argymhellion i wella gwasanaethau a chymorth i bobl dros 55 oed.
Bydd eich adborth yn llunio'r cynigion a gall fod o gymorth i ddatblygu prosiectau sy'n digwydd dros y blynyddoedd nesaf.
Polisi Derbyn i Ysgolion 2024/25
Ar gau: 17 Chwefror 2023
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig i’r trefniadau derbyn i ysgolion a ddaw i rym o fis Medi 2024.
Un o ofynion statudol Cod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru yw bod y Cyngor (fel yr awdurdod derbyn ar gyfer yr holl ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yng Nghasnewydd) yn cynnal ymgynghoriad blynyddol ar drefniadau derbyn i ysgolion yn y flwyddyn academaidd nesaf ond un.
Cynigion cyllideb – 2023/24
Ar gau: 2 Chwefror 2023
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gofyn i aelodau’r cyhoedd roi eu barn ar gyllideb ddrafft y cyngor a’r cynllun ariannol tymor canolig ar gyfer 2023/24.
Cyflwynwyd nifer o gynigion arbedion oherwydd bwlch yn y gyllideb o tua £27.6 miliwn.
Cronfa Ffyniant Gyffredin – llunio ein Cynllun Buddsoddi Lleol
Ar gau: Tachwedd 30 2022
Rydym yn ceisio eich barn ar Gynllun Buddsoddi Lleol Casnewydd. Ariennir y Cynllun drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (GFG), sef cyfle ariannu newydd sy’n cefnogi hyfforddiant sgiliau o ansawdd uchel, cymorth cyflogaeth, twf busnes, meithrin cydnerthedd cymunedol ac ymdeimlad o falchder yn lle rydym yn byw.
Mae gennym rai syniadau eisoes, yn seiliedig ar ymgynghoriad blaenorol â’r cyhoedd, sydd wedi’u nodi yn yr arolwg, ond rydym hefyd eisiau gwybod a oes pethau eraill y dylem fod yn eu gwneud.
Bydd eich adborth yn llywio'r cynllun buddsoddi lleol a datblygiad prosiectau penodol a fydd yn digwydd dros y tair blynedd nesaf.
Dywedwch wrthym: beth hoffech chi ei wybod?
Ar gau: 17 Rhagfyr 2022
Rydyn ni eisiau cyfathrebu â chi gystal ag y gallwn.
P'un a yw'n clywed am gasgliadau biniau ar Facebook, neu ddarllen am ein cynlluniau i'r dyfodol yn Newport Matters, rydym am rannu gyda chi newyddion a gwybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo, drwy sianeli sy'n addas i chi.
Er mwyn ein helpu i'ch cyrraedd yn y ffordd orau bosib, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi gwblhau ein harolwg byr, fel y gallwn ddeall mwy am yr hyn rydych chi eisiau ei wybod, a sut rydych chi eisiau clywed gennym ni.
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru – ardoll ymwelwyr
Ar gau: Dydd Mawrth 13 Rhagfyr 2022
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar yr opsiwn o gyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Byddai hyn yn caniatáu i gynghorau lleol godi tâl ar bobl sy'n ymweld â'u hardal, fel twristiaid. Byddai pob cyngor yn defnyddio'r arian i wella eu hardal ac annog mwy o bobl i ymweld yn y dyfodol. Er nad yw hwn yn ymgynghoriad gan y cyngor, efallai y bydd o ddiddordeb i unigolion a busnesau yng Nghasnewydd.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynnig gan gynnwys dogfennau cymunedol ac ieuenctid a hawdd eu darllen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Natur Wyllt - Mannau gwyrdd
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am adborth gan breswylwyr ar sut y caiff ardaloedd naturiol o fewn y ddinas eu rheoli, gyda mannau gwyrdd ar draws Casnewydd yn cael eu gadael i dyfu yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf er budd ecosystemau fel rhan o brosiect Natur Wyllt.
Mae pob un o’r pump awdurdod lleol yng Ngwent yn ymroddedig i reoli mwy o fannau gwyrdd ar gyfer natur fel rhan o brosiect Natur Wyllt, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd.
Mae’r cyngor eisiau sicrhau y canfyddir y cydbwysedd cywir rhwng natur a hamdden drwy glywed adborth preswylwyr ar ddull Natur Wyllt yn y mannau gwyrdd lleol. Drwy adael i ni wybod beth yw eich barn y newidiadau, gallwch ddangos cefnogaeth neu dynnu sylw at feysydd lle gallem wella.
Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
Ar gau: 15 Tachwedd 2022
Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn ei gwneud yn glir mewn deddfwriaeth bwysigrwydd y rôl y dylai Awdurdodau Lleol ei chwarae wrth ddarparu gofal plant lleol. Mae'n atgyfnerthu'r angen i awdurdodau lleol barhau i weithio mewn partneriaeth â'r sectorau a gynhelir, annibynnol, preifat, gwirfoddol a chymunedol i lunio a sicrhau gwasanaethau plant.
Mae'r adroddiad hwn yn archwilio gwybodaeth ystadegol sy'n ymwneud â darparwyr gofal plant a chwarae preifat, cyhoeddus a gwirfoddol o fewn ffiniau Dinas Casnewydd.
Gallwch ddarllen yr adroddiad a drwy fynd i’n tudalen Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd
Cynllun Corfforaethol
Ar gau: 23 Medi 2022
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi bod yn datblygu cynllun corfforaethol newydd sy'n nodi meysydd blaenoriaeth a rhaglen waith ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae wedi'i seilio ar themâu allweddol a fydd, yn ein barn ni, yn gwneud Casnewydd yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo. Gofynnir i drigolion am eu barn ac i helpu i lywio dyfodol y ddinas.
Maes Llafur Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Casnewydd
Ar gau: 28 Mehefin 2022
Mae Grŵp Ymgynghori Casnewydd yn cyfarfod i gytuno ar Faes Llafur Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Casnewydd ar gyfer mis Medi 2022. Mae'r cyfarfod yn rhoi cyfle i grwpiau crefyddol ac anghrefyddol a staff addysgu drafod y ddogfen ddrafft a chyflwyno unrhyw newidiadau yr hoffent eu gweld.
Darllenwch yr agenda yma
Prydau Ysgol am Ddim i Bawb
Ar gau: 20 Mehefin 2022
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen gyffredinol ar gyfer prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd i gefnogi cyrhaeddiad addysgol a maeth plant ochr yn ochr â chynhyrchu a dosbarthu bwyd lleol.
Caiff ei gyflwyno'n raddol i ddechrau i gefnogi'r dysgwyr ieuengaf o fis Medi 2022 a disgwylir iddo gael ei weithredu'n llawn erbyn mis Medi 2024.
Er mwyn sicrhau bod plant yn cael y ddarpariaeth orau bosibl, rydym yn gofyn i rieni a gofalwyr gwblhau holiadur.
Strategaeth Cyfranogiad
Ar gau: 27 Mawrth 2022
Dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru gyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad sy'n nodi'r ffyrdd y caiff pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhroses y Cyngor o wneud penderfyniadau.
Ein nod yw bod yn agored ac yn ymatebol i anghenion dinasyddion a chymunedau. Mae hyn yn golygu cynnwys pobl leol mewn prosesau cyfranogol, lle gall trigolion ddylanwadu ar bolisi a gwasanaethau a'u siapio. Mae cyfranogiad yn ymwneud â rhannu penderfyniadau gyda'r rheiny y mae'r penderfyniadau hynny’n effeithio arnynt, a rhaid iddo fod yn rhan annatod o'n gwaith.
Gall cyfranogiad gynnwys ystod eang o wahanol ddulliau a thechnegau, a gall y cyngor neu drigolion ei awgrymu.
Rydym yn ceisio adborth ar flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer annog pobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
Lawrlwythwch y Strategaeth Cyfranogiad (pdf)
Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLI) – gweledigaeth, materion ac amcanion drafft
Ar gau: 25 Mawrth 2022
Fel rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLI), rydym yn awr yn gofyn am eich adborth i helpu i fireinio’r weledigaeth, materion ac amcanion drafft i gynrychiol’r cymunedau sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chasnewydd orau.
Mae’r adroddiad yn nodi’r hyn y mae’r cyngor yn credu yw’r materion, heriau a chyfleodd allweddol sy’n wynebu Casnewydd ac mae’n darparu gweledigaeth ac amcanion drafft ar gyfer y CDLI.
Ymgynghoriad ar deithio cynaliadwy – llwybrau rhwng Casnewydd a Chaerdydd
Ar gau: 11 Mawrth 2022
Hoffai Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Caerdydd wybod eich barn ar gynlluniau i wella opsiynau teithio cynaliadwy rhwng Casnewydd a Chaerdydd.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys cynigion i wella llwybrau cerdded, beicio a bysus ar yr A48 rhwng y ddwy ddinas.
Maent hefyd yn cynnwys gwella Llwybr 88 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Mae'r cynlluniau'n datblygu argymhellion allweddol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r comisiwn ddod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o fynd i'r afael â thagfeydd ar goridor yr M4 yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae'r gwaith o weithredu'r argymhellion yn cael ei arwain gan Uned Cyflenwi Burns Trafnidiaeth Cymru, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a chynghorau yn ne-ddwyrain Cymru.
Dysgwch fwy