Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan gorfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd, sy'n cael ei adnabod fel www.newport.gov.uk 

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Dinas Casnewydd.  Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.  Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:  

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau 
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin 
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig  
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais  
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin  

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.  

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd neu unrhyw ofynion hygyrchedd.

Mae'r wefan yn defnyddio Meddalwedd ReachDeck er mwyn i chi glywed tudalennau yn cael eu darllen allan ar goedd yn ogystal â defnyddio chwyddwydr a chymhorthion gweledol eraill. 

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon 

I helpu cymaint o bobl â phosibl, rydyn ni wedi bod yn defnyddio gofyniad Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.1. Mae'r canllawiau hyn yn cael eu cydnabod ledled y byd fel y safon aur ar gyfer gwneud gwefan yn hygyrch a defnyddiol i bawb. 

Rydym wedi dewis targedu gofyniad WCAG 2.1 AA ar gyfer ein holl eiddo gwe. 

Fodd bynnag, gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.  

  • Ni ellir defnyddio rhai o’r dogfennau PDF, Word, Excel a PowerPoint hŷn ar feddalwedd darllenydd sgrin
  • Efallai na fydd rhai o'n fideos hŷn yn cynnwys capsiynau 
  • Mae’n anodd llywio drwy rai o'n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Mae angen gwella cyferbyniad lliw ar rai eitemau penodol. 

Ailddatblygu gwefan

Mae Cyngor Dinas Casnewydd ar hyn o bryd yn dechrau ar y broses o ailddatblygu ei wefan gorfforaethol.

Fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn symud i system newydd a fydd yn rhoi gwefan i ni sydd wedi gwella ymarferoldeb, hygyrchedd a dyluniad.

Dylai defnyddwyr ddisgwyl gweld cynnydd ar hyn yn gynnar yn 2024.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille: 

Byddwn yn ystyried eich cais a'ch cynghori o fewn 10 diwrnod. 

Os na allwch weld y map ar ein tudalen 'cysylltu â ni', ffoniwch ni neu e-bostiwch ni i gael cyfarwyddiadau.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd o ran y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os canfyddwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: [email protected]    

Bydd eich e-bost yn cyrraedd ein tîm cyfathrebu a fydd yn edrych ar y materion rydych yn eu disgrifio ac yn ymateb os bydd angen.  

Wrth adrodd am faterion hygyrchedd gyda'n safle, cofiwch gynnwys: 

  • Disgrifiad o'r broblem  
  • Dolen i ble rydych chi'n cael y broblem
  • Pa feddalwedd a chyfrifiadur rydych chi'n eu defnyddio 

Mae hyn ond ar gyfer dweud wrthym am broblemau hygyrchedd. Os hoffech gysylltu â ni am rywbeth arall, ac mae angen ymateb arnoch, defnyddiwch ein tudalen cysylltu â ni.

Gweithdrefn orfodi 

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn rhedeg TextLocal service lle gall preswylwyr anfon neges destun i ni a gallwn ateb drwy e-bost i'w ffôn.  

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni clyw, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu rywun i gyfieithu iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg.

Mae dogfennau, biliau, ffurflenni ac adnoddau eraill ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. Byddwn hefyd yn trafod â'r cwsmer wrth drefnu i ddod o hyd i'r ateb gorau.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio 

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Methu â chydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd 

Nid oes gan rai delweddau ddewis arall o destun, felly ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad at y wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (cynnwys di-destun).

Gyda chymorth datblygiad ein gwefan newydd, pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn bodloni safonau hygyrchedd.

Problemau gyda PDFs a dogfennau Word

Nid yw'r rhan fwyaf o'n dogfennau PDF a Word yn cwrdd â safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi cael eu marcio fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Ein nod yw bod mewn sefyllfa lle bydd unrhyw ddogfen PDF neu Word newydd y byddwn yn ei chyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd oni bai ein bod yn penderfynu eu bod yn cynrychioli baich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.  Yn y pen draw, rydym yn bwriadu darparu fersiwn HTML hygyrch o'r wybodaeth fel y brif ffynhonnell a dileu PDFs lle nad oes eu hangen mwyach. 

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd 

Ceisiadau trydydd parti  

Rydym yn gofyn bod unrhyw systemau trydydd parti newydd y byddwn yn eu comisiynu ar gyfer y wefan yn cydymffurfio â chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.1 AA. Fodd bynnag, mae ceisiadau trydydd parti yn rhannol neu'n gyfan gwbl allan o'n rheolaeth ac felly efallai na fyddant yn cydymffurfio â'r un lefelau hygyrchedd â gweddill y wefan.  Mae ceisiadau trydydd parti yn cynnwys: 

  • iTrent (swyddi gwag)
  • Abavus (Fy Nghasnewydd/Fy Ngwasanaethau Cyngor)
  • Public-I (gwe-ddarlledu) 
  • Modern.gov (Gwybodaeth cynghorwyr, cyfarfodydd, agendâu a chofnodion) 
  • Home Options Casnewydd
  • Idox (chwiliad ceisiadau cynllunio, rheoliadau rheoli adeiladau a chofrestr trwyddedu) 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 27 Medi 2022.

Cafodd y datganiad hwn ei adolygu ddiwethaf ar 7 Awst 2023.   

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 7 Awst 2023. Cynhaliwyd y prawf gan ddefnyddio'r platfform Siteimprove.  

Fe wnaethom sgorio 84.2/100 ar gyfer hygyrchedd, mae 90.9% yn cydymffurfio ar gyfer gwiriadau lefel A WCAG 2.1, mae 77.2% yn cydymffurfio ar gyfer gwiriadau lefel AA WCAG 2.1, ac mae 65.9% yn cydymffurfio ar gyfer gwiriadau LEFEL AAA WCAG 2.1.  

Mae ein sgôr hygyrchedd cyffredinol, yn ogystal â’n cydymffurfiaeth â lefel A ac AA wedi gwella ers ein hadolygiad diwethaf ar ddechrau 2023.

Ein nod yw gwella'r sgôr hygyrchedd cyffredinol a lefelau AA ac AAA ymhellach drwy ddatrys rhai o'r materion a restrwyd yn gynharach yn y datganiad hwn.