Coronavirus COVID-19: because of the current situation your request may take longer than usual to respond to and could potentially exceed the statutory deadline.
We will respond to your request for information as soon as possible, thank you for your patience.
Deddf Diogelu Data 2018
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn casglu ac yn prosesu llawer o wybodaeth bersonol i gynnal ei swyddogaethau fel awdurdod lleol.
Mae’r tudalennau hyn yn egluro sut byddwn yn casglu ac yn storio eich data ac yn cynnig trosolwg o’n gweithgareddau prosesu.
Hysbysiadau Preifatrwydd
Mae manylion ein gweithgareddau prosesu mewn Hysbysiadau Preifatrwydd gwasanaethau unigol.
Gallwch hefyd lawrlwytho copi o’n Hysbysiad Preifatrwydd RhDDC (pdf)
Ffynhonnell a chategorïau gwybodaeth sy’n cael eu prosesu
Bydd y rhan fwyaf o’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu yn cael ei darparu gennych chi, y Gwrthrych Data.
Weithiau, byddwn yn cael eich data personol gan ffynonellau heblaw amdanoch chi eich hun ac os mai hyn yw’r achos, byddwn yn dweud wrthych o le’r ydym wedi cael eich gwybodaeth (y ffynhonnell) ac yn egluro i chi’r categorïau gwybodaeth yr ydym wedi’u casglu, er enghraifft, eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni.
Pwy fydd yn gallu gweld eich gwybodaeth bersonol
Cyngor Dinas Casnewydd yw’r rheolydd data.
Y swyddog diogelu data yw Rheolwr Gwasanaethau Digidol y Cyngor y gellir ei e-bostio yn information.management@newport.gov.uk neu ei ffonio ar (01633) 656656.
Gallai rheolwyr data eraill fod yn gyfrifol am eich gwybodaeth hefyd, yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Pan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn dweud wrthych:
- pwy yw prif ddefnyddwyr eich gwybodaeth
- a ydym yn rhannu eich gwybodaeth a gyda pwy y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)
- a ydym yn defnyddio proseswyr data a phwy ydyn nhw (mae proseswyr data yn sefydliadau arbenigol y gallen ni ymgysylltu â nhw, sy’n prosesu data ar ein rhan)
- manylion unrhyw drosglwyddiad rhyngwladol o’ch data personol
Ceisiadau am Wybodaeth Bersonol
Gall yr holl wybodaeth a gofnodir sydd gan Gyngor Dinas Casnewydd fod yn destun ceisiadau dan Ddeddf Diogelu Data 2018.
I wneud cais am gopi o wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch e-bostiwch information.management@newport.gov.uk i ofyn am gopi o’n ffurflen gais am wybodaeth bersonol.
2. Pam a sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio
3. Eich hawliau
TRA93359 5/11/2018